Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BYR-GOFIANT.


D

PARCH. DANIEL DAVIES, TANYGROES.

Da genym gael dechreu gydag un ellir ei alw yn gymeriad, yn oblegid hyny goddefir iddo gael mwy o le yn y llyfr na'r rhai nad oeddynt felly, er eu bod yn rhai da, a da iawn. Nid bob dydd nac ymhob ardal y cyfarfyddir â dyn y gellir dweyd ei fod yn gymeriad. Mae pob dyn wrth ddal i fyw yn y byd, ac ymgysylltu â dynion ac â phethau, yn llwyddo i enill rhyw fath o gymeriad, ond nid un felly yw yr un y soniwn yn awr am dano. Rhaid i'r un dan sylw ddyfod gyda'r dyn i'r byd, a bod yn gymhlethedig â holl alluoedd ei feddwl, os nad hefyd â ffurf ei gorff. Nid peth i'w enill ydyw, ac nid hawdd ei golli ychwaith. Ofer i gymdeithion boreu oes ymdrechu ei dynu allan o'r bachgen fydd yn cyd-chwareu â hwy; ofer i athraw unrhyw ysgol nac athrofa gymeryd, fel y dywedir, y fwyell a'r plân er tynu i lawr yr hyn a ystyrir yn geinciau geirwon ynddo; ac ofer i unrhyw gelfyddydwr geisio cael y prentis hwn yr un fath ag y mae wedi cael eraill o'i oed a'i sefyllfa. Ni chafodd Daniel Davies fanteision addysg elfenol nac athrofa fel eraill, a phe buasai yn eu cael ni newidid fawr ar y dyn, os gellid ychwanegu ychydig at ei wybodaeth. Buom yr un pryd a mab iddo mewn ysgol, a gallwn herio yr un athrofa yn y byd i wneyd ysgolor o hwnw. Yr oedd yn gyfaill rhagorol, yn llawn o ryw fath o dalentau; ond gyda gwersi yr ysgol ni chawsid ef nemawr byth. Nid ydym yn gwybod a yw dyn a ystyrir yn gymeriad yn fwy gwrthwynebol i gymeryd dysg, na dynion tebyg