Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i bawb; ond gwyddom mai un ar ei ben ei hun ydyw, a'r "neillduol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun." Nid oedd Daniel Davies yn ffafriol iawn i'r rheol o roddi addysg i bob pregethwr, a'r un faint i bawb. Wedi i Dr. Charles roddi fyny Trefecca, yn nghanol y dadleuon brwd gymerodd le y pryd hwnw, dywedodd, "Pe cawn i fy meddwl, cymerwn y bicas i gloddio dan ei gornel bore fory."

Pan yn ieuanc, prentisiwyd ef gyda gwniedydd. Yr oedd hwnw yn hoff o gael tamaid o fwyd rhwng prydiau; ond dywedai, "Nid oes eisiau i'r hogyn bach Daniel i gael gwybod am hyn." Ond daeth i wybod, a dywedai, "Mi cofia i ef am hyn." Dyfeisiodd i ddweyd fod ei feistr yn arfer cael ffitiau, ac mai yr unig ffordd i wneyd ag ef ar y pryd oedd ei gylymu ar unwaith fel na allai symud. "Pan fyddo yn curo y ford," meddai, "cydiwch ynddo, a mynwch ei rwymo faint bynag a waeddo." Er mwyn gwneyd y prawf, cuddiodd y siswrn pan oedd ei feistr allan. Ymhen ychydig wedi esgyn i'r bwrdd dyna guro, a churo eilwaith, nes yr aeth y bobl yn bryderus, ac i barotoi ar gyfer y ffitiau. Gan ei fod yn dal i guro a gwaeddi, aethant a'r rhaffau i fewn, ac er pob dymuniad a bygythiad o eiddo Ianto Evan Siams, meistrolwyd ef. Yna datguddiwyd y gyfrinach, a daeth y ddau ar ol hyny yn ffrindiau mawr, er i rywbeth annymunol fyned rhwng ei rieni a'i feistr, fel ag i gael Daniel oddiwrtho, a rhoddodd hyny derfyn am byth ar ei deilwriaeth. Nid dyma y tro cyntaf na'r diweddaf i wneyd camsyniad am alwedigaeth bywyd. Gwasanaethu y bu ar ol hyn gyda ffermwyr y wlad; ond ni chawn ei hanes ond gyda rhai pur gyfrifol, sef Capt. Parry, y Gurnos; Mr. M'Key, Rhos-y-gadair-fawr; a Mr. Levi Thomas, Plas Aberporth. Pan gyda'r blaenaf, dywedir ei fod yn annuwiol iawn, a'i driciau yn lliosog. Ond er y cwbl, aethai yn min yr hwyr i siop crydd y Parch. Daniel Evans, Capel Drindod, i gael gweled llyfrau, y rhai a ddarllenai gyda blas mawr. Pan gyda'r ail, yn meddiant y diafol yr oedd eto, ac yn llawn dyfeisiau i'w wasanaethu. Pan alwodd Gipsies yn y tŷ, ac heb gael eu boddloni, dywedodd Daniel fod y tarw wedi ei reibio ganddynt, a'i fod yn troi yn ddi-atalfa. Galwyd y crwydriaid yn ol gyda chyflymdra