Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr i wneyd gwell caredigrwydd a hwy. Y dirgelwch o hyn oll oedd fod Daniel wedi taro corn y tarw er mwyn sport yn ngwyneb ofergoeliaeth y wlad.

Daeth "amser ymweliad" Daniel o'r diwedd, a hyny pan oedd yn gwasanaethu yn Plas Aberporth, yn ei ardal enedigol. Aeth i Penmorfa i wrando ar y Parch. Thomas Richards, Abergwaen. Gelwir y bregeth a bregethodd ar y pryd, "Pregeth y mân gelwyddau." Yr oedd y bregeth drwyddi yn ddarluniad mor gywir o'i fywyd blaenorol ef, fel y dywedodd ynddo ei hun, "Yr wyf yn cofio fy meiau heddyw, a gwae fi yn awr bechu o honof." Yr oedd wedi hollol gredu mai ei feistr, Levi Thomas, oedd wedi dweyd wrth Mr. Richards am dano, a theimlai ato yn enbyd o'r herwydd, nes y clywodd yn amgen; ac ar ol clywed, teimlodd oddiwrth genadwri y bregeth yn llawer mwy. Gwelodd erbyn hyn mai llais o'r nef ydoedd ato ef yn bersonol. Yr oedd y pregethwr wedi dweyd yn erbyn yr arferiad oedd gan rai o eillio eu barfau ar foreu Sabbath, ac yr oedd yntau wedi gwneyd hyny y boreu hwnw. Yr oedd yn llefaru yn erbyn yr arferiad o gyrchu dwfr ar y Sabbath, yr hyn a wnaethai yntau lawer gwaith. Ond y "mân gelwyddau mewn twyllo er mwyn difyrwch, ac amcanion eraill, oedd yn dyfod adref gyda nerth anorchfygol. "Yr wyt ti yn dweyd," meddai Mr. Richards, "nid yw ond gair, nid yw ond trifle, nid yw ond sport. Os felly y mae yn ymddangos i ti, nid felly y mae i Dduw ; nid trifle o beth oedd i Dduw wneyd trefn i faddeu dy bechod lleiaf di, gan na wnelai dim y tro er gwneyd hyny ond traddodi ei Fab i waedu ei fywyd allan ar Galfaria." Byth ar ol hyn, daeth yn ddyn newydd. Bu mewn tywydd mawr ynghylch achos ei enaid, ond ni ymollyngodd i ddigalondid. Daeth yn fuan at grefydd i Blaenanerch, gan nad oedd un capel yn Aberporth ar y pryd. Ymgymerodd ar unwaith a dyledswyddau crefydd. Ac yn lle ymhyfryda mewn dyfeision drygionus fel o'r blaen, ymhyfrydai yn awr mewn gwrando, ac adrodd pregethau. Tyrai y bobl, hen ac ieuainc, o'i amgylch yn awr i ail glywed y rhai hyny, ac amryw i'w clywed am y tro cyntaf. Treuliodd oriau ar y pentan yn y Plas i