bregethu fel hyn, a'r teulu ac eraill o gwmpas y tân, yn ei wrando, ac yn fynych a'r dagrau yn llif dros eu gruddiau. A diau genym iddo wneyd lles i lawer trwy y dull hwn o wasanaethu crefydd. Yr oedd y Parchedig Ebenezer Morris, y pryd hwnw, yn fugail ar eglwys Blaenanerch, ac yr oedd golwg fawr ganddo ar D. Davies, fel un o dalent neilldol a llawn o humour. Yr oedd un yn casglu rhyw dreth eglwysig, a Daniel yn gwrthod ei thalu, fel y dygwyd ei achos o flaen Mr. Morris. Gofynodd hwnw, "Beth yw yr arian mae'n nhw'n ei geisio genyt, Daniel ?" "Wn i ddim, Syr, os nad rhyw gymaint i gael fy enaid o'r purdan ydynt." Chwarddodd Mr. Morris yn galonog, a dywedodd, "Wel, dichon mai rhywbeth felly ydynt." Ni chywsom ragor o'r hanes. Wedi iddo briodi â Beti, fel y galwai ei wraig, aeth i fyw i Tyhen, ar dir y Plas. Yr oedd yn darllen a gweddio ar yn ail a Mr. Thomas yn y Plas. Yr oedd yn darllen yn fynych yn llyfrau hanesiol yr Hen Destament, a gofynodd ei feistr iddo y rheswm am hyny. "Yr wyf yn cael blas mawr," meddai, ac y mae y fath addysg i ni yn y cwbl. Edrychwch chi 'nawr ar Naaman, tywysog llu brenin Syria; yr oedd yn wr cadarn, nerthol, ond yn wahanglwyfus. Dyna fel ry'n ninau yn gymwys, beth bynag sydd o ddaioni ynom; nis gallwn ymffrostio dim, gan ein bod yn llawn o'r gwahanglwyf." Pan ddaeth lle yn rhydd, cafodd odyn galch Aberporth, a gelwid ef gan y wlad wed'yn am flynyddoedd yn "Daniel y calchwr." Yr oedd pawb yn hoffi dyfod ato, oblegid fod ei gymdeithas mor ddifyr, a'i ddull mor naturiol ymhob peth. Dywedir ei fod yn gymaint o gyfaill gan y plant, fel nad oedd yn cael taflu fawr o'r ceryg i'r odyn, eu bod hwy am y cyntaf yn gwneyd, ac yntau yn trefnu, a'u difyru hwythau ar y pryd. Gan mor ragorol oedd mewn gweddi, ac mewn dweyd ei feddwl yn fywiog a tharawiadol ar bob mater, yr oedd yn cael ei gymell gan lawer i bregethu. Yr oedd y Parch. John Jones, Blaenanerch, ac yntau yn ymgeiswyr un amser. Bu y Parchn. John Thomas, Aberteifi, a Daniel Evans, Capel Drindod, yn Blaenanerch yn eu holi, a chafodd y ddau ddechreu pregethu yn 1833.