Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna Daniel Davies yn y pulpud, sylwch arno, mae yn ddyn gweddol dal, yn sefyll yn unionsyth, yn llawn o gnawd, er na ellir dweyd ei fod yn dew. Y mae ei ysgwyddau yn hynod o lydain, a'i holl gyfansoddiad yn ateb iddynt mewn cymesuredd a chryfder o'r gwadn i'r coryn. Sylwch ar y gwddf, gymaint yw ei gylchfesur, ond mor leied ei hun. Y pen i raddau yn flat, ac yn pwyso yn ol yn drwm i gyfeiriad asgwrn y cefn. Gan fod y gwddf mor fyr, mae y goler yn plygu yn anniben i lawr ar y napcyn du, ambell waith ar napcyn gwyn torchog. Mae y wyneb yn arw, a marciau y frech wen yn aml ac amlwg arno. Gan fod y gwddf mor fyr, a'r ysgwyddau mor llydain, ymddengys y pen yn isel, a chan fod y pen yn flat, nis gall y talcen fod yn uchel, ond y mae digon o led ynddo, a'r wyneb yn ateb iddo, yn llydan ac yn grwn. Mae ei enau yn llydan, a'r gwefusau yn drwchus, yn hynod felly. llygaid yn fawrion, ac yn arddangos meddwl clir a bywiogrwydd dychymyg. Mae ei dafod yn chwareu yn hamddenol y tuallan i'w ddanedd yn fynych wrth siarad, fel pe byddai yn melysu ei bethau wrth eu dangos i eraill. Fel y mae yr ymddangosiad, felly y mae yr arabedd, y gallu meddyliol, a'r synwyr cyffredin yn ateb iddo. Mae yn cadw ei law ddehau ar y pulpud, ac yn troi dalenau y Beibl ar yn ail; ond pan y byddo eisiau rhoddi pwys ar rywbeth neillduol, coda ei fraich tuag yn ol mewn dull areithyddol, a theifl hi ymlaen gyda nerth. Ond nid yw hyny yn gorchfygu ei hunanfeddiant, daw yn ol drachefn i'w hamdden blaenorol nes y caiff ei gynhyrfu eto. Pan lonydda y cyffroadau, nid yw dyddordeb y gwrandawyr yn y pethau yn colli, gan fod ganddo gyflawnder i ddweyd, ac yn gallu dweyd mewn brawddegau byrion, tarawiadol, a synwyrgall, fel penod o Lyfr y Diarhebion. Mae yn anhawdd i neb siarad mor hamddenol a hwn, ac ar yr un pryd dynu cymaint o sylw, ac enill cymaint o galonau y gwrandawyr. Mae ei olwg yn wledig, ac y mae yn siarad yn wledig; ond y mae ei bethau yn boddhau y meddylwyr goreu, y chwaeth yn ddigon pur i oreuon y dorf, ac yn ddigon dealladwy i'r gwanaf ei, amgyffred. Mae hwn yn ddyn pawb, a therfyna gan adael y dre' a'r bâl yn ei fola yn lle ar ei gefn." Eto: "Y