Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynulleidfa mewn tymer i ddymuno cael gwledd gyffelyb yn fuan eto.

Meddylier eto am y bregeth. Y testyn oedd, " Y mae Hwn yn derbyn pechaduriaid." "Dywedodd y rhai hyn wir wrth ddweyd celwydd, a darfu iddynt ddyrchafu Crist wrth geisio ei iselu. I. Swydd Crist yn yr efengyl—derbyn pechaduriaid. Mae yn derbyn pob math o bechaduriaid, Iuddewon a Chenhedloedd. Tramgwyddodd Pedr yn fawr pan ddywedwyd wrtho am y pob math, nes iddo gael ei argyhoeddi am delerau ei genadwri. Mae Iesu Grist yn well yn hyn na Victoria. Yr oedd pob math yn Corinth, ond yr hyn ddywedir wrthynt oll yw, 'Chwi a olchwyd.' Mae yn derbyn pob graddau o bechaduriaid, Manasseh waedlyd, &c. Wn i ddim a ddaw rhai mwy na Manasseh ymlaen rywbryd, ond os daw, mae yn sicr o wneyd a nhw fel y mae y môr yn gwneyd a'r llongau— eu nofio i gyd. Mae yn gwneyd yr un fath hefyd a budreddi pawb wrth ymolchi ynddo. Mae yn derbyn o hyd. Mae porthladdoedd yn derbyn rhai llongau i mewn, ond yn rhoddi sign allan wedy'n na allant dderbyn rhagor, er yr holl ystormydd fydd yn curo arnynt. Mae rhai porthladdoedd hefyd wedi eu cau, ac nid oes argoel y cant new claim er eu hagoryd. Ond am y claim sydd gan Grist, fe ddeil yn ei rym nes gorphen yr holl waith. II. Y diben sydd ganddo wrth dderbyn pechaduriaid. Mae yn eu derbyn i'w hachub, i fod yr un fath ag ef ei hun; fel y mae y môr yn derbyn yr afon, i fod yr un llun, yr un lliw, a'r un flas ag ef ei hun. Mae yn eu derbyn i'w dysgu. Mae llawer o son y dyddiau hyn am athrofeydd, a gellid meddwl wrth glywed rhai yn eu canmol, y gallant wneyd peth rhyfedd iawn a dynion, ond ni chlywais i erioed iddynt wneyd yr un ffol yn gall. Ond am y sefydliad yma mae yn gwneyd yr ehud yn ddoeth i iachawdwriaeth. Er mwyn y gwaith mawr yma y mae y byd yn cael ei gynal. Yr oedd yr Affricaniaid yn meddwl mai mynydd Atlas oedd yn dal y nefoedd i fyny. Beth bynag am hyny, yr wyf yn siwr mai y gwaith o dderbyn pechaduriaid sydd yn dal y byd i fyny. Mae ei fod yn derbyn, yn cynwys ein bod i roi ein hunain iddo." Pan oedd yn Cae'rfarchell, Sir