Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Benfro, gofynai Mr. Jenkins, y blaenor, iddo, "A ydych chwi yn cofio y bregeth oedd genych yn Nghyfarfod Misol Tyddewi ar y testyn, 'Mi a ymwelaf a chwi drachefn ?"" "O! y mae yn myned yn dda eto, fachgen, weithiau," oedd yr ateb. Y penau oeddynt, Mia ymwelaf a chwi drachefn fel haf ar ol gauaf—fel llanw ar ol trai—fel gwlaw ar ol sychder—fel dydd ar ol nos. Yr oedd ef yn dweyd ei fod yn hoff o holi yr Hyfforddwr, gan fod ei bynciau yn bynciau slaid i gyd, sef eu bod mor rhwydd i holi arnynt ag yw i blant lithro ar y rhew. Felly y gellir dweyd am arddull ei bregethau yntau bron i gyd.

Gan ei fod yn siaradwr mor barod, ac mor llawn o arabedd, nid oedd ei ail fel areithiwr dirwestol a gwleidyddol. Areithiodd ar ddirwest yn Aberporth nes tori yr allowance fyddai wrth arllwys llongau a rhoddi balasarn (ballast) ynddynt, a gwnaeth hyny les mawr iddo wrth areithio ar ddirwest lawer gwaith wedi hyny. "Mae rhai o honoch," meddai, "yn dweyd, fe ddown ni yn ddirwestwyr oni bai y lwens. Yr ydych yn gwneyd i mi gofio am y dyn oedd am ddyfod i gert oedd yn rhy lawn. Gofynai, Faint raid i fi roi i ch'i am gael llusgo wrth ben ol y gert? Grôt, meddai y cartman. Cytunwyd ar hyny. Ond yr oedd y gert yn croesi afon, a phan yn myn'd ati, dywedodd y gyrwr, gwell i chwi fyn'd round fan yma, yr ydym yn myn'd trwy'r afon. Afon neu beidio, meddai yntau, rhaid i mi gael gwerth fy arian. Aeth trwyddi; a chlywsoch lawer gwaith am wlychu fel pe byddech wedi bod yn yr afon. oedd yntau wedi gwlychu bob modfedd hyd ei groen. A pu'n well fuasai i hwnw roundio tir sych na chael y wlychfa hono er cael gwerth ei rôt? Gwell gan rai o honoch chwithau gael y lwens er colli eich synhwyrau, tlodi eich teuluoedd, tori eich cymeriad, a myn'd i fedd yn anamserol." Dyma un arall, "Aeth dyn o Blaenanerch i Aberteifi i 'mofyn pâl. Yr oedd yn meddwl wrth fyn'd gael un gwerth tri a chwech ; ond wedi yfed gwerth chwech, meddyliodd y gwnelai un dri swllt y tro; wedi yfed tipyn yn rhagor, meddyliodd y gwnai un haner coron y tro. Ond y diwedd fu, iddo fyn'd a