Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeliau hirion a hynod, pan yn ceryddu. Os byddai y drwgweithredwr yn gwneyd ymgais i fychanu ei fai, ac yn enwedig, os yn ymgais at feia eraill, gwnelai ddefnydd o'i lais cryf, ei eiriau llym, a'i olwg llewaidd dychrynllyd, er argyhoeddi y dyn, nes y byddai yn dda ganddo gael tewi ac eistedd i lawr, a chymeryd y wialen, os caffai lonydd ar hyny. Ni fedrai terfysgwyr gael eu ffordd os byddai ef gerllaw. Yr oedd hyn yn un o'i brif ragoriaethau, sef cael allan a thrin y gwreiddyn chwerwedd," a'r un fyddai mewn "bustl chwerwder a rhwymedigaeth anwiredd." Ac felly yr oedd yn llwyddianus i gadw amddiffyn dros heddwch yr eglwys.

Yr oedd yn weithiwr caled. Nid ychydig o waith yw ymweled â chynulleidfa fel un Llanddewibrefi, sydd yn ymledu dros filldiroedd o gwmpas, a hyny lawer i fynyddoedd uchel a chymoedd anghysbell. Ond nid oedd ef yn ymfoddloni ar fyw hamddenol yn yn ei dŷ, pan y gwelai fod angen ymweled â chlaf, neu weddw ac amddifaid, neu esgeuluswr, neu un wedi ei oddiweddyd gan ryw fai. Elai, fel ei Feistr, i'r anialwch ar ol y golledig, y lesg, a'r helbulus. Ymgymerodd â bod yn fugail hefyd yn Saron, y tu arall i'r mynydd, yn Sir Gaerfyrddin; a phwy ond yr un yn meddu ar ei ddewrder ef a anturiai wneyd hyny, a chroesi yr holl fynyddoedd ar bob math o dywydd. Bu ef fel hyn yn fugail mynydd am flynyddoedd lawer, ac yn gymwys i fod yn fugail y gwastadedd yr un pryd. Os meddyliai o ddifrif am rywbeth, ei fynu yn y diwedd fyddai y canlyniad. Mynodd yr hen gapel-ysgoldy yn ol oddiwrth Eglwys Loegr, wedi bod yn feddiant anghyfreithlawn iddi am flynyddoedd lawer. Mynodd adeiladu yr ysgoldy mawr sydd rhwng y capel presenol a glan yr afon, a chadw meddiant ynddo, pan oedd cymaint o elyniaeth ato, ac awydd am ei wneyd yn beth anghyfreithlon. A dyna y capel mawr eang a phrydferth sydd yno, mynodd gael hwnw, a gweled ei orphen cyn ei ymadawiad. Ac ar ol cael yr holl bethau hyn i drefn, a gorpheniad tawel a sefydlog, galwyd ef i noswylio. Yn hawdd y gallai fforddio hyny, gan ei fod wedi llwyddo i godi cofgolofnau oesol iddo ei hun yn y lle, yn y diwrnod byr a gafodd i weithio. Yr oedd yno filoedd yn