Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr achos. Daeth yr eglwysi i ddeall hyn, a gwnaethant ddangos hyny trwy ei alw i fod yn fugail. Bu am beth amser felly yn Ponterwyd, yn agos i'w le genedigol. Yn 1861, galwyd ef gan eglwys Bethesda, Llanddewibrefi, a bu yma hyd ei alwad oddiwrth ei waith at ei wobr. Yr oedd yma lawer o berthynasau o du ei fam. Yr oedd ei dadcu, D. Peters, yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, ac yn un o ragorolion y ddaear. Yr oedd Mr. Oliver hefyd wedi cael odfaon rhyfedd yn y lle yn amser y diwygiad, gyda'r rhai mwyaf grymus a gafwyd yno. Yr oedd yma lawer hefyd yn gwybod am ragoroldeb Mr. Oliver fel dyn, ac fel un o lafurus gariad fel Cristion a phregethwr. Ac ni siomwyd neb ynddo. Ni fugail ac eglwys erioed yn adnabod eu gilydd yn well, ac yn mawrygu y naill y llall yn fwy. Bu ei fugeiliaeth am 22 mlynedd yn ysbaid didor o lwyddiant, a hyny bron ymhob ystyr. Nodwn bellach rai o'i ragoriaethau fel pregethwr a bugail.

Yr oedd yn bregethwr Ysgrythyrol ac athrawiaethol, ac nid peth bychan yw hyny yn yr oes hon. Fel y dywedwyd, daeth yn fwy ymarferol ar ol y diwygiad; ond yr athrawiaethol oedd nodwedd ei bregethu trwy ei oes. Gellir dweyd ei fod yn deall yr athrawiaeth; dadleuai y rhan fwyaf i dywyllwch dudew, pa faint bynag fyddai eu gallu, ond iddynt ddal at y pwnc. Ac os na ddalient at y pwnc, nid oedd neb a fedrai ganfod hyny yn gynt nag ef, gan ei fod yn deall maes cyfreithlon yr athrawiaeth mor dda. anhawdd cael neb i holi ysgol gystal ag ef. Medrai y Beibl, a medrai arwain y bobl mor hyfryd, fel nad oedd neb yn blino arno. Yr oedd yn ffafrddyn yr ysgolion pa le bynag y byddai. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, er ei fod yn dda; ond yr oedd yn boblogaidd ac yn dda fel holwr ysgol.

Yr oedd yn ddyn di-dderbyn-wyneb. Nid oedd yn boddloni yr eglwys fel bugail trwy ganmol pawb yn eu hwyneb, a gadael i ddrwgweithredwyr ddianc yn ddigerydd rhag ofn eu tramgwyddo, ac iddo yntau trwy hyny golli ei barch yn eu golwg; na, yr oedd yn arswyd i weithredwyr anwiredd, a phroffeswyr dioglyd a therfysglyd. Yr oedd golwg ofnadwy ar ei lygaid duon, o dan