Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaethau, yn naturiol trwy fod yr un oedran, yn cyd-grefydda, yn dechreu pregethu yr un pryd, sef yn 1855, ac yn cael eu hordeinio yr un pryd, sef yn 1862, yn Nghymdeithasfa Llanbedr. Yr ydym yn cofio y ddau yn cyd-wrando yn yr un côr yn Nghapel Trisant, ac yn ymddangos y ddau flodeuyn harddaf yn y lle. Yr oeddynt felly o ran golwg naturiol, ac felly o ran eu gwybodaeth a'u defnyddioldeb. A sonid am danynt fel rhai oedd yn meddu cymwysderau i bregethu. Ni chafodd Mr. Oliver lawer o fanteision addysg pan yn ieuanc; ond yr oedd ef a'i frawd yn gweithio ar fferm eu tad, ac yn cael ambell i chwarter o ysgol y gauaf. Yr Ysgol Sabbothol fu eu hathrofa fawr hwy, ac mewn cysylltiad â hon y tynwyd eu galluoedd allan gyntaf, ac y codwyd syched ynddynt am wybodaeth Feiblaidd a duwinyddol. Y cyfarfodydd eraill ddarfu eu tyru allan oedd y rhai dirwestol. Buont am flynyddoedd y rhai tanbeidiaf gyda'r rhai hyn. Yr oedd yno hefyd gyfarfodydd tebyg i'r dosbarthiadau Beiblaidd sydd yn awr, a bu y rhai hyny o fantais fawr i'r ddau yn yr ystyriaethau a nodwyd. Yr ydym yn cael i Abraham Oliver fyned i'r ysgol i Aberystwyth pan o'r 18 i'r 20 oed, a dysgodd ddigon yno i'w alluogi i gadw ysgol ddyddiol i ddysgu plant yr ardal. Bu felly yn cadw ysgol yn ei gapel ei hun, sef Trisant. Gellid disgwyl rhywbeth tebyg, gan ei fod yn ŵyr o du ei fam i'r hen ysgolfeistr enwog a'r hen flaenor galluog David Peters. Pan oddeutu 27 oed, dechreuodd bregethu. Yr oedd pawb yn gwybod am ei gymwysderau i lefaru o'r blaen, o'r rhai oedd wedi ei glywed yn areithio gyda Dirwest a'r Ysgol Sabbothol, ac ni chawsant eu siomi ynddo wedi iddo esgyn y pulpud. Yr oedd ei bregethau am oddeutu dwy flynedd, yn hynod o athrawiaethol; ond yn fuan, torodd y diwygiad allan, a chafodd yntau gyfranogi yn helaeth o hono, fel y daeth ei bregethau yn fwy agos ac ymarferol.

Yr oedd yn bregethwr da; ond yr oedd ynddo ef ddefnyddiau i wneyd ei ddefnyddioldeb yn llawer mwy na thrwy bregethu yn unig, sef trwy gymeryd gofal cyffredinol am achos Iesu Grist. Yr oedd yn meddu ar allu neillduol i adnabod dynion, ac adnabod y modd goreu i ymlwybro ymlaen gyda rhanau allanol ac ysbrydol