Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd testyn Mr. Elias, ac yntau ar ei ol oddiar Luc x. 34, "Ac a'i dug i'r llety, ac a'i hymgeleddodd." Yr oedd llawer yn ofni na allai wneyd dim â'r fath destyn fyddai yn ateb i bregeth ragorol y gwr mawr o Fon. Ond buan y cafodd pawb weled fod yr "Ysbryd yn weddill" ar gyfer y bregeth arall. Dangosodd Mr. Morris ragoroldeb eglwys Dduw fel llety, a bod yn rhaid i ddyn wrth y fath lety, neu fod allan heb ymgeledd. Cydiodd yn y gair gwlawio " yr oedd ei frawd yn cyfeirio ato, a gwaeddai, " Y mae'r nos yn dyfod, a'r gwlaw mawr ar ymdywallt, a oes genych lety ? Mae llawer o honoch yn agos, ond byddwch dan y bargod os nad ewch i fewn. Llety llety! llety!" Teimlai y gynulleidfa gyda'r bloeddiadau fel pe buasai daeargryn yn ysgwyd y lle. Daeth llawer yno i'r eglwys mewn canlyniad, ac i gyd yn tystio mai pregeth y llety oedd wedi eu darbwyllo i ddyfod. Ar ol dyfod adref, diflasodd llawer wrth weled mor llesg yr ymddangosai. Ni phregethodd ond teirgwaith neu bedair wedi dyfod adref. Yn ei gystudd dywedai, "Os allan o waith, allan o'r byd." "Fy nymuniad penaf yn awr yw, cael fy natod a bod gyda Christ." Galwodd Mrs. Morris ato, a dywedodd ei fod wedi bod gyda Llwyd o Gaio, a Jones, Llangan, a melus iawn oedd eu cwmni. "Ni fu neb erioed yn hoffach o'i deulu a'i wlad, ond wedi gweled gogoniant y wlad nefol, nid oes genyf ymlyniad wrth ddim sydd yma, na dymuniad am gael aros yn y corff. Yn awr mi a'i gwelaf! O! wlad ryfedd! O! y fath fwynhad wyf yn ei brofi? ïe, yn loesion angau." Wedi cael y fath olwg ar sancteiddrwydd y wlad, gwaeddai, "Pa le y mae'r Ysbryd Glân? pa y le mae'r Ysbryd Glân?" a bu farw gan ddweyd, "O! Ysbryd Glân," Awst 15fed, 1825, a chladdwyd ef yn mynwent Troedyraur.

O

PARCH. ABRAHAM OLIVER, LLANDDEWIBREFI.

Brodor ydoedd o ardal Pontarfynach. Yr oedd a'r Parch. David Oliver, Twrgwyn, yn efeilliaid, a hyny mewn amryw ystyr-