Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiffygiol yn ei ddiwygiad ef, a darfu iddynt lwyddo. Cododd ef y bobl mor bell ag i gael blas ar yr efengyl, a phe buasai yn gweled ychydig yn mhellach, gallasai, hefyd, yr un mor rwydd, wneyd cartrefi gwastadol iddynt i'w mwynhau.

Ymollwng a wnaeth ei gyfansoddiad yntau, fel un yr Eben arall yn Nhregaron, dan feichiau trwmlwythog gwaith. Dywedir nad oedd ond dydd Llun a dydd Sadwrn ganddo heb bregethu a chadw seiat pan y byddai gartref, heblaw yr holl gyfarfodydd cyhoeddus y byddai yn myned iddynt yn y De a'r Gogledd. Cyfarfyddodd hefyd â rhai ystormydd geirwon ar ei daith. Ar y 18fed o Awst, 1819, yr oedd David, ei fab hynaf, yr hwn oedd ar y pryd yn arolygwr masnachdy enwog Mrs. Foulkes, Machynlleth, ac ar bwynt priodi, yn ymdrochi yn yr afon Ddyfi, gerllaw y dref, a boddodd, pan yn 27 oed. Yn Sasiwn Llangeitho, yr oedd Mr. Morris pan dderbyniodd y newydd. Pan aeth a chorff ei fab adref i'w gladdu yn Troedyraur, dywedodd wrth Mrs. Morris, "Gobeithio, Mary fach, na chawsoch eich gadael i ddweyd dim yn galed am yr Arglwydd." Pan bregethodd gyntaf ar ol hyny yn Twrgwyn, rhoes y penill canlynol i'w ganu yn y diwedd:

"Ac ni fyddai'n hir cyn gorphen,
Ddim yn hir cyn glanio fry;
Pob addewid, pob bygythiad,
Pob gorchymyn sydd o'm tu:
Nid y dyfnder fydd fy nhrigfan,
Gwn y deuaf yn y man,
'Nol fy ngolchi gan y tonau,
Yn ddihangol byth i'r lan.

Gan fod cyfeiriad yn y penill at y "dyfnder" a'r "tonau," a'i fod yntau ymron yn methu ei roddi allan gan ei deimlad, cafodd effaith annesgrifiadwy ar y dyrfa. Gwnaeth yr ergyd ei hôl arno am y gweddill byr o'i oes. Y flwyddyn y bu farw, aeth y drydedd waith yn ei fywyd i wasanaethu yr achos Cymreig yn Llundain, lle yr arhosodd hyd ar ol gwyliau y Pasg. Yn y Gymanfa, yr oedd John Elias ac yntau yn pregethu nos Lun y Pasg, a'r ddau yn eu hwyliau goreu. "Am hyny yr annuwiolion ni safant yn y farn,"