Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddai raid i'w dysgu; ac yn erbyn codi ychwaneg o gapelau. Mae genym eithaf digon o gapelau," meddai, "eisiau arbed eu cyrff sydd ar y bobl; ac os ewch i wrando arnynt, cyll yr efengyl ei dylanwad ar y wlad."

Y rheswm maw dros y gwrthwynebiad hwn ynddo oedd, mai pregethwr ydoedd, a dim ond pregethwr. Oblegid hyny, mynai i bob cyfarfod fod yn ddarostyngedig i'r bregeth. "Bydd dau," meddai, "yn ddigon i fod yn yr ysgol gyda'r plant, dewch chwi i gyd i Blaenanerch, neu Twrgwyn," lle bynag y byddai y bregeth. Gwelid peth anghysondeb ynddo yntau, gan y gwelai angenrheidrwydd i bregethu mewn anedd-dai rhwng y capelau hyn, ac yr oedd yn gwneyd hyny yn bur aml; ond pan sonid wrtho fod yno ddigon o gynulleidfa i godi capel, dywedai na penderfynol, ac na ddylid rhoddi ffordd i ddiogi. Yr oedd ef yn ddiwygiwr rhanol, mor bell ag yr oedd eisiau pregethwr rhagorol i godi y wlad i wrando yr efengyl, ac i argyhoeddi ac ail eni pobl wedi eu cael at eu gilydd, yr oedd ef yn un o'r goreuon i gyraedd yr amcan hwnw; ond ni fynai gario y diwygiad yn mhellach. Gweithiai yn dda mor bell ag y mynai ef fyned, ond ni fynai berffeithio yr hyn a ddechreuodd. Yr hyn welai pobl eraill yn ddiwygiad, ni welai ef ynddo ond difaterwch ysbrydol gyda'r efengyl, a diffyg awydd i'w mwynhau. Pe buasai ef byw o hyd, dichon y gallai gyda'i ddylanwad mawr, gadw y wlad iddo ei hun; ond gan iddo fyned, a myned mor gynar ar ei fywyd, gwnaeth lawer i gadw y wlad oddiwrth y Methodistiaid ar ol ei ddydd. Nid oedd ef yn bwriadu hyny, ond hyny fu canlyniad y cwrs a gymerodd. Yr oedd ef â'r udgorn arian yn gallu galw y dynion ynghyd i'r lle, ac ar yr amser a fynai; ond yr oedd rhyw Jerusalem ganddo ef fel lle y gwyliau arbenig, a'r gynulleidfa reolaidd. Pa fodd bynag, yr oedd pregethwyr yn y wlad nad oeddynt amgen na cheiliogod rhedyn yn ei ymyl ef fel pregethwyr, yn dal sylw ar ei holl symudiadau, ac yn gweled pa le yr oedd dynion. A gwelai y cyfryw na allent byth hynodi eu hunain, fel efe, ond mynent hwythau wneyd a allent a gweithient mewn distawrwydd a dinodedd y pethau oeddynt yn weled yn