Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r cae, i Owen, beth oedd yn feddwl am y bregeth fach. "Anghyffredin," meddai yntau. "Ofnais yn fawr pan glywais y testyn, mai odfa wael a gawsech." "Ysgwyd y blwch yr oeddwn ar y ffordd," meddai Mr. Morris, "yma yr oeddwn yn ei dori."

Pethau rhyfedd fel yna sydd yn cael eu dweyd am dano yn Nghymdeithasfaoedd Caernarfon, Pwllheli, Bala, a lleoedd eraill; a phethau llawn mor ryfedd a adroddir am dano mewn odfaon oddeutu cartref, mewn angladdau, mewn priodasau, ac wrth launchio llongau, ond gadawn yr oll. Nid oedd ei fath hefyd am wastadhau cwerylon mewn eglwysi; yr oedd pawb a chymaint o barch iddo, a chymaint o bwys yn cael ei roddi ar ei air ymhob peth, fel y byddai pawb yn rhoddi ffordd i'r hyn a ddywedai. Daeth felly yn y Cymdeithasfaoedd pan nad oedd ond 30ain oed, a hyny yn nghanol yr holl offeiriaid fyddai yn rheoli ynddynt ar y pryd. Peth rhagluniaethol oedd fod ei fath ef yn y Cyfundeb yn amser chwyldroad yr ordeinio. Yr oedd llygaid pawb arno ef, a gwelent yr afresymoldeb o fod y pregethwr goreu o bawb heb hawl ganddo i weinyddu yr ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Pan ofynodd ef i Mr. Charles, yn Nghymanfa y Bala, "Pa un fwyaf, a'i pregethu yr efengyl a'i gweinyddu yr ordinhadau?" cafodd yr holl dyrfa i fod yn wresog o'i blaid, pan y gorfu ar Mr. Charles ateb mai pregethu oedd fwyaf. A'r Gymanfa hon, gan mwyaf, benderfynodd yr achos. Digiodd yr offeiriaid a'r Eglwyswyr yn fawr wrtho, gan y gwyddent, pe byddai ef yn erbyn, na feiddiai neb ddadleu drosto yn ei amser ef. Yr oedd yr holl wlad yn ei law, a theimlent fod awdurdod yn ei bresenoldeb a'i leferydd. Ac i ni ystyried hyn, yr ydym yn gweled fod rheswm yn yr hyn a ddy. wedir yn gyffredin, mai o achos ei fod ef yn erbyn codi capelau, y collodd y Methodistiaid y rhan fwyaf o waelod Sir Aberteifi. Gall pawb farnu, os oedd ef yn erbyn, nad yw yn rhyfedd fod godreu y sir mor deneu o Fethodistiaid, gan na feiddiai neb ymladd â'r fath gawr. Dywedir ei fod yn eithafol o wrthwynebol i ddau beth pwysig, sef yn erbyn i neb ond plant fod yn yr Ysgol Sul, a hyny