yn dew iawn o gorff, y tewaf o bregethwyr a feddai y Cyfundeb; ond nid oedd yntau mor dewed a'i dad. Yr oedd golwg foneddigaidd, ddewr, a hardd dros ben arno, yn sefyll yn syth, yn hollol naturiol, ac yn un y gallai pawb gredu nad oedd ofn neb arno, ond ei fod yn falch o gael dweyd gair dros Dduw wrth y dyrfa fawr oedd o'i flaen. Yr oedd ganddo bethau, fel y dywedir, bob amser yn ei bregethau. Yr oedd yn meddu ar synwyr cryf a barn dda, ac yn ymadroddwr o'r fath oreu. Ac i wella yr oll, ac yn fantais i wneyd y goreu o honynt, yr oedd ei lais gyda'r cryfaf, y cliriaf, a mwyaf clochaidd a feddai Cymru. Y Parch. Evan Evans, yr Aber, a ddywedai ei fod ef wrth fugeilio praidd ei dad, dair milldir o Aberystwyth, yn clywed Mr. Morris yn pregethu allan yn y Gymanfa, ac yn gallu deall ambell i air yn y bloeddiadau uchel, pan y byddai yr awel yn fanteisiol. Yr oedd yn rhaid ei gael ef i bregethu yn Nghymanfa ei sir ei hun, gan mor enwog ydoedd. Mae son byth am ei bregeth yn Trecastell, ar y geiriau, "I'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwnaethum ef." Pan yn ei phregethu ar y ffordd yno, nid oedd yr hen flaenor, Owen Enos, oedd gydag ef, yn gweled dim yn hynod ynddi fel ag i fod yn bregeth Cymanfa, a diflasodd yn fawr pan y clywodd y testyn, gan feddwl na fyddai fawr lewyrch ar yr odfa. Yr oedd yn taflu goleuni rhyfedd ar y creu yn yr ail eni, y llunio yn y sancteiddhad, a'r gwneuthur yn ngorpheniad y gwaith, ac ambell flachiad disymwth fel mellten yn tywynu weithiau, nes y byddai yr holl dorf yn ymwylltio. Ac o'r diwedd, dyma yr ystorm o fellt a tharanau, fel yn syth uwchben, ac yn yr ymyl, a'r gwlaw mawr yn ymdywallt, ac yntau ar uchder ei lais yn gwaeddi, "I'm gogoniant, gogoniant, gogoniant," a'r bloeddiadau yn uwch, uwch, o hyd, Yr oedd yr hen flaenor, Mr. Watkins, yn dweyd, nad aeth yr un cerbyd dieithr heibio neb aros, a bod y cwbl yn y dref wedi sefyll; ac na wyddai ef ddim pa nifer o'r dynion oedd yn pasio mewn cerbydau, ac o'r dynion gwamal yn y dref, ac ar lechweddi y mynyddoedd o gwmpas, gafodd eu hargyhoeddi; ond bod hanes i ugeiniau oedd yn y dyrfa ac ar y cae, gael eu dwysbigo. Gofynodd wrth ddyfod
Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/135
Gwedd