Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig ddyddiau cyn ei farw, pregethwr mwyaf Cymru ar ei ol yn pregethu yn ei gapel am y tro cyntaf. Nid oedd ond dau bregethwr hynod yn y sir pan ddaeth Mr. Morris yma o Brycheiniog, sef Mr. Williams, Lledrod, a Mr. Gray, Abermeurig; yr oedd Mr. Thomas, Aberteifi, heb ddechreu.

Wedi ymsefydlu yn Twrgwyn, cafodd ei alw i gymeryd gofal yr eglwysi ag oedd dan ofal ei dad cyn hyny, sef Twrgwyn, a'r eglwysi a alwyd wedi hyny, Blaenanerch, Penmorfa, Pensarn, &c. Mae yr hanesion canlynol am dano yn profi y meddwl uchel oedd gan bawb am dano. Unwaith pan oedd yn Blaenanerch, ar ddydd o'r wythnos, cauodd eira ei ffordd adref, fel nad oedd dim i wneyd ond aros lle yr oedd, na wyddid dim hyd ba bryd. Ond penderfynodd y bobl agor yr holl ffordd iddo, ac aeth rhywun dewr i ardaloedd Twrgwyn i orchymyn rhai yno hefyd at y gwaith, fel y cyfarfyddodd y ddau gwmni i gyfarch eu gilydd ymhen ychydig o amser, a chafodd yntau ffordd agored i fyned adref rhwng muriau yr ôd. Pan alwyd arno i lys barn, ceisiwyd ganddo wneyd ffurf o lw ar y Beibl, ond ataliwyd ef trwy i'r barnwr ddweyd, "Mae ei dystiolaeth ef yn ddigon" Byddai W. Lewis, Ysw, Llysnewydd, un o'r boneddigion goreu yn y wlad, a gair mawr ganddo iddo; a phan yn ei gyfarfod unwaith, dywedodd wrtho, "Dylem ni fod yn ddiolchgar i chwi am y gwaith mawr ydych yn wneyd yn y wlad, yr ydych yn fwy o werth na dwsin o honom ni, yr Ustusiaid." Boneddwr arall yn dweyd y gwnaethai ef ei oreu gyda Chymanfa Capel Newydd, Sir Benfro, ond iddo gael clywed Eben Morris am ddeg o'r gloch, a chafodd ef. Pregethodd oddiar y geiriau, "Ffordd y cyfiawn sydd fel y goleuni," &c., a chyfrifid fod o gant i chwech ugain wedi cael eu hargyhoeddi trwyddi, a'r gŵr bonheddig yn eu plith wedi ei syfrdanu. Torodd yn floedd trwy y dyrfa, pan drodd yn y diwedd at ffordd y drygionus, a dweyd, "Llwybr yn tywyllu, tywyllu, tywyllu, fwyfwy hyd ganol nos! Mae yma ddynion yn myn'd i wlad yr haner nos. O! Dduw, rhagflaena'u haflwydd ar frys! O! bobl, ystyriwch eich ffyrdd! Ystyriwch eich ffyrdd !"

Yr oedd yn llon'd pulpud o bregethwr ymhob ystyr. Yr oedd