Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nad oedd ond 19eg oed. Gan nad oedd rheolau wedi eu gwneyd y pryd hwnw i bregethwyr, gyda golwg ar aros yn y sir, a myned allan o'r sir i bregethu, ar ol iddynt ddechreu, yr ydym yn cael iddo ef fyned ar daith i'r Gogledd gyda'r efengylydd enwog Dafydd Parry, Llanwrtyd, yn fuan wedi dechreu pregethu. Gan i'w dad farw yn 1791, daeth adref i Penffos, at ei fam i aros. Yn 1792, priododd â Miss Mary Jones, Dinas, yn agos i Salem. Gan ei bod yn ferch gyfoethog, fel merch mabwysiedig ei hewythr, digiodd hwnw yn aruthr wrthi am gymeryd dyn nad oedd ganddo ond ei. geffyl a'i gyfrwy. Felly gorfu arni fyned i Benffos heb ddim, a rhoddodd ei hewythr yr eiddo i frawd iddi, sef David Jones, Ysw., blaenor cyntaf Salem. Bu hwnw mor garedig a rhoddi swm mawr o arian i Mrs. Morris, ei chwaer, â pha rai y prynwyd tir, ac yr adeiladwyd Blaenwern, yn 1802, lle y bu y ddau byw am y gweddill o'u hoes, a'r lle y buont feirw mewn tangnefedd.

Pan ar ymweliad a'i dad, aethant gyda'u gilydd i Gastellnewydd, ar neges, a'r noswaith hono, ar gais taer y gymydogaeth, yr oedd. Eben wedi addaw pregethu yn nhŷ fferm Troedyraur. Wrth ddyfod yn ol o'r dref, dywedodd ei dad wrtho yr aethai ef adref, rhag iddo fod yn un rhwystr iddo ef. Nid aeth ond prin dros y golwg, a mynodd fod o fewn cyfleusdra i glywed ei fab, yr hwn a bregethodd allan ar yr horse-block, a'i lais yn treiddio trwy yr holl ddyffryn. Ar ol ei glywed, dywedai ei dad, na fyddai i'r efengyl adael y wlad tra y byddai Eben, ei fab, byw. Mae yn hynod i'r pregethwr rhyfedd hwn gael ei godi gan yr Arglwydd erbyn yr adeg yr oedd i alw Mr. Rowlands, Llangeitho, i'r nefoedd. Er fod lliaws o bregethwyr yn dyfod i Langeitho erbyn y Sabbath cymundeb, ni ddewisid ond y rhai goreu o'u mysg i bregethu am dri o'r gloch, y Sadwrn cyn hyny, ar ol i Mr. Rowlands bregethu am ddeuddeg. A'r Sadwrn cyn y Sul olaf y bu Mr. Rowlands yn pregethu, Mr. Morris fu yn pregethu prydnhawn, er nad oedd eto ond dwy flwydd oed o bregethwr. Y dydd Sadwrn canlynol, yr oedd yr efengylydd o Langeitho yn marw, ac y mae y cydgyfarfyddiad yn arwyddol iawn—y pregethwr mwyaf yn Nghymru yn marw, ac