Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pe gallent fod yn fawr fel diwygwyr crefyddol,-bod yn central figure mewn diwygiad crefyddol ymha un yr achubwyd miloedd o eneidiau. 2. Dyma ddyn sydd wedi ymddibynu gormod ar gynhyrfiadau crefyddol fel cyfryngau defnyddioldeb. Gan mai ambell waith, rhyw unwaith mewn oes, y mae diwygiadau yn cymeryd lle, mae y neb a ymddiriedo ormod ynddynt yn sicr o syrthio i ddinodedd ar adegau eraill. Cafodd ef ddiwygiad nerthol i'w godi i safle grefyddol o ddefnyddioldeb, a chafodd un arall i'w godi yn brif oleuad yr oes hono; ond nid oedd wedi ymroddi digon i fod yn ddefnyddiol yn annibynol ar ddiwygiadau. 3. Dyma ddyn a defnyddiau ynddo i gynhyrfu y byd. Mae ei olwg yn sicrhau hyny. Os na chaiff ddiwygiad at hyny, gwna ef gynhyrfu trwy bethau eraill, a rhai o honynt yn bethau pur chwithig.

Da genym allu dweyd fod ei feddwl yn dyfod i naws mwy nefolaidd yn agos i ddiwedd ei oes. Dywedai fod ei ffydd yn dyfod yn gryfach bob dydd fod yr Arglwydd eto ar ymweled a'i bobl. Mae hyny yn profi ei fod yn dal i edrych am arwyddion o'r peth mawr yr oedd ef yn fawr ynddo, ac yr ymddengys iddo gael ei fodolaeth er ei fwyn. Priododd â merch i'r Parch, Evan Evans, Aberffrwd. Mab iddo ef yw y Parch. J. J. Morgan, Pontfaen, Morganwg, yr hwn sydd yn wr ieuanc gobeithiol. Bu Mr. Morgan yn pregethu am oddeutu 40 mlynedd, a chafodd ei ordeinio yn 1857, yn Nghymdeithasfa Trefin.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Ebenezer Morris
ar Wicipedia

PARCH. EBENEZER MORRIS, TWRGWYN.

Mab ydoedd i'r Parch. David Morris, o'r un lle; a ganwyd ef yn 1769, cyn i'w dad ddyfod o Lledrod, ar alwad eglwys Twrgwyn. Wedi symud yma, cafodd fyned i Ysgol Ramadegol, yr hon a gedwid gan offeiriad o'r enw Daniel Davies, yn Troedyraur. Gan ei fod wedi cael ysgol yn fwy na'r cyffredin, trwy ryw foddion cafodd alwad i gadw ysgol i Trecastell, Sir Frycheiniog. Tra yno y cafodd ei argyhoeddi trwy bregeth cynghorwr o'r enw Dafydd William Rhys, a daeth yn grefyddwr mor ymroddedig, fel y cynghorwyd ef i ddechreu pregethu, a hyny a wnaeth yn 1788, pan