Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derbyn hithau yn yr odfa 10. "Pan gyfarfyddwch a'ch gilydd," meddai, "bydd yno orfoledd mawr, a'r ty yn wahanol iawn i'r peth y gadawsoch ef. Gadawsoch ef yn dy heb dô, ond bydd iachawdwriaeth ynddo o hyn allan." Derbyniodd ddwy wraig yn Penparcau, Aberystwyth, y rhai yr oedd eu gwyr ar y môr. Ymhen misoedd ar ol hyny, derbyniai wr i un o honynt yn y Tabernacl; ac wedi gofyn i'r dyn yn fanwl pa bryd y daeth y peth ar ei feddwl am grefydd, dywedodd pan oedd ar ganol y Pacific Ocean, y pryd a'r pryd. Gwnaed ymchwiliad, a gwelwyd mai pan oedd Mr. Morgan, yn Penparcau, yn gweddio drosto yr oedd Ysbryd Duw yn ymryson â meddwl y dyn, ac heb ei adael nes iddo ddyfod adref i roddi ei hunan i bobl Dduw. Yn Morganwg, yr oedd yn derbyn gwraig i'r eglwys, ac yn ei holi ynghylch ei gwr. Cafwyd ar ddeall mai Twm y Bwli oedd yr enw adnabyddus arno. Gweddiodd yn daer iawn dros Twm, ac yr oedd pawb yno yn cyd-weddio. Yn un o'r odfaon nesaf, yr oedd hwn eto, yn ei ddillad gwaith, a'i lestri bwyd a diod o'i gylch, ac yn ddu fel y fran, yn ymofyn am le yn nhy Dduw, gan ddweyd iddo. deimlo rhywbeth rhyfedd yn gwasgu ar ei feddwl pan yn y gwaith dan y ddaear; a hono, eto, oedd adeg y weddi drosto yn y capel o'r blaen. Pan oedd Mr. Morgan yno ar ol hyn, gofynwyd am iddo ddyfod i ryw dy. A gofynodd y dyn a oedd yn ei adwaen ef. Dywedodd nad oedd. Hysbysodd y dyn mai Twm y Bwli ydoedd, ac yr oedd ef a'i dy yn werth cael golwg arnynt, gan mor drwsiadus oeddynt.

Dyna David Morgan, a dyna gampwaith ei fywyd. Ar ol hyn nid oes cystal pethau i'w hadrodd am dano. Mae tair ystyriaeth yn dyfod i'n meddwl wrth fyfyrio ar ei fywyd ar ol y diwygiad. 1. Dyma ddyn sydd wedi enwogi ei hun fel diwygiwr. Rhyw un gwaith mawr y mae y rhan fwyaf o'r dynion goreu wedi ei gyflawni, ac wedi cyflawni hwnw ar ryw gyfnod arbenig o'u bywyd. Mae llawer yn byw a marw heb enwogi eu hunain mewn dim, ïe, a llawer o bregethwyr felly. Ond y mae ef wedi enwogi ei hun, ac wedi gwneyd hyny gydag un o'r pethau goreu y gellir meddwl am dano. Rhoddai dynion mawr lawer o'u pethau goreu o'r neilldu,