Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl iddo ddal heb dori i fyny; ond yr oedd ganddo gorff cawraidd, gwroldeb na chymerai ei siomi, a chafodd ras yn gymorth cyfamserol. Ar yr un pryd, yr oedd yn ymwybodol o'i annheilyngdod ei hun i gael ei ddewis a'i gymhwyso at waith mor fawr. Clywid ef yn gwaeddi amryw droion, "Pwy wyf fi, O! pwy wyf fi, a phwy yw fy nhy, i wneyd y fath gyfrif o honof fel hyn?" Gwaeddai felly pan ar daith gyda'r Parch. Evan Phillips, Castellnewydd, yn y Gogledd; a phan yn dyfod i Gyfarfod Misol Blaenanerch gyda'r Parch. Thomas Edwards, Penllwyn. Ac os oedd felly yn gyhoeddus, diameu genym ei fod felly yn fynych mewn hunan-ffieiddiad gerbron Duw.

Dyweder a fyner, mae rhyw resymau neillduol dros alw diwygiad mawr 1859 yn "Ddiwygiad Dafydd Morgan," heblaw mai efe a ddechreuwyd gael ei gysylltu ag ef gan y wlad. Na, yr oedd wedi cael ei dynu yn agos iawn at Dduw; ac yr oedd Duw wedi ei ddewis i hysbysu ei feddwl iddo, ac amlygu ei allu trwyddo. Yr ydym yn cael ei hanes ddwy waith yn ymdrechu a'i holl egni i afaelu yn y ddaear, pan oedd yn teimlo fod yno ryw allu cryf yn ei godi fyny or ddaear. Bu am ryw chwarter milldir o ffordd, pan yn teithio trwy Ddyffryn Rheidiol, yn gafael yn yr anifail, gan ei fod ymwybodol fod rhywbeth yn ei dynu i'r entrych. Bu felly yn gafaelu yn dyn yn mhulpud Tregaron, ac yn meddwl ei fod yn gweled goleuni disglaer uwch ei ben, a rhywun yn y goleuni yn ei raddol dynu i fyny. Nis gallwn esbonio hyn, os nad oedd yn rhyw arwydd o'r cymundeb agos oedd yn ddal â'r wlad nefol, ac o'r nerth a dderbyniai oddiyno. Pan oedd mewn lle yn Meirionydd, yn derbyn gwraig i'r seiat, gofynai am ei gwr, a dywedodd hithau ei fod yn gweithio yn y chwarel, a'i fod yn ddi-grefydd. Gweddiodd yn daer drosto wrth ei enw, yn y diwedd. Odfa 10 oedd hon. Mewn capel arall, am 2, derbyniodd wr y wraig hon. Wrth ei holi, daeth Mr. Morgan i ddeall mai ar yr adeg yr oedd ef yn gweddio drosto, y teimlodd ryw dddylanwad gorchfygol arno yn y chwarel, fel y gwelodd fod yn rhaid iddo fyned i'r odfa. Dywedodd y diwygiwr wrtho am ei wraig wrth ei henw, a'i fod wedi ei