gruddfan dan lwyth eu beiau. Yr oedd yr Ysbryd yn graddol addfedu Mr. Morgan at ei waith mawr. Pan yn dyfod adref ryw nos Sabbath, dros fynydd Llanerchpentir, daeth y fath ddylanwad ar ei feddwl nes y gadawodd y gaseg i bori ar y mynydd tra y bu yntau yn ymdrechu â'r angel dwyfol. Bu yno am oriau. Pan olynwyd y rheswm am ei ddiweddarwch, yn dyfod adref, ei ateb oedd, "Ymdrechu am y fendith y bum i, ar fanc Llanerchpentir; ac O! diolch, yr wyf wedi ei chael!" Bu yn gwrando H. Jones, hefyd, yn pregethu ar y geiriau, "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion." Ar ol hyn, bu ryw dair nosmaith heb gysgu. Bu hefyd yn cynal cyfarfodydd gweddiau am wythnosau, a hyny bob nos. Fel hyn, daeth y wyneb llewaidd, a'r llygaid tanllyd, yn reality ofnadwy. Gwnaeth i filoedd ddychrynu pan yn gwaeddi a'i holl nerth i ddangos perygl yr annuwiol, a dyledswydd pobl Dduw i roddi help to the rescue, trwy gymhariaeth y bachgen yn dringo y graig ar ol nyth yr eryr, ac wedi myned yn rhy bell i berygl, a'r bobl yn dangos y cyfeiriad, ac o'r diwedd yn taflu y rhaffau iddo, ac yn ei achub. Gwaeddodd nes colli ei lais, i raddau pell, a'r llais cyfyng a garw hwnw bellach fel yr oedd, a fu ganddo bron i ddiwedd y diwygiad. Ond yr oedd yn fwy ofnadwy fel hyny, na'r llais naturiol oedd ganddo.
Drwg genym na buasai wedi ysgrifenu hanes y diwygiad. Mae llyfr ar ei ol yn cynwys ei deithiau, yr odfaon oedd yn gadw, a'r seiat oedd ar ol, a nifer y rhai dderbyniodd o newydd; ond nid yw yn rhoddi hanes personau, na nemawr o'r gwahaniaeth rhwng y naill gyfarfod a'r llall. Hanes y flwyddyn 1859 ydyw. Mae yn dechreu yn Blaenpenal, Ionawr y 4ydd, ac yn diweddu yn Brynsiencyn, Sir Fon, Tachwedd y 4ydd. Rhwng y ddau ddyddiad, bu mewn 9 o gyfarfodydd pregethu, mewn 6 Cyfarfod Misol, mewn 12 o gyfarfodydd gweddiau neillduol, mewn 18 o gyfarfodydd eglwysig, 2 Gyfarfod Dosbarth, 2 gymanfa plant, ac 1 Gymanfa Chwarterol. Pregethodd 566 o weithiau, heblaw yr anerchiadau, a'r cyfarfodydd eglwysig, ar ol hyny. Derbyniodd 3,014 ar brawf i'r gwahanol eglwysi, a 251 yn aelodau cyflawn. Mae yn syn