Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aidd i gyd drosto. Llygaid tanllyd, ac fel yn treiddio i'r bobl oedd o'i flaen, ac nid arnynt yn unig. A chan fod ganddo ddull o wasgu ei eiriau yn ei enau wrth eu hanfon allan, yr oedd hyny, gyda golwg ofnadwy ei lygaid, a'i wyneb, a'i wallt goleu crychlyd, yn ei wneyd yn un o ddisgwyliad uchel i gynulleidfa, hyd nes iddynt gynefino ag ef. Disgwyl neu beidio, nid oes dim yn ei bregeth sydd yn llanw disgwyliad. Pregeth fer, ac heb un pen, y rhan fynychaf, dim ond ychydig o sylwadau eglur a di-effaith. Ond peidier a rhoddi y pregethwr i fyny, y mae rhyw bethau yn perthyn iddo sydd yn rhoddi lle i feddwl fod Duw yn bwriadu gwneyd rhywbeth mawr trwyddo. Mae yma ddefnydd mellt, ond nid ydynt yn cael eu gyru allan,—mab y daran ydyw, ond nid yw y taranau i'w clywed eto. Ar ei ddyfodiad allan, ac am flynyddoedd wedi hyny, ymddangosai yn fath o beiriant o drefniad hynod, ond heb ateb fawr o ddiben oedd yn ateb i ragoroldeb ei olwg. Arhoswch chwi bu y Great Eastern felly, ond trwy roddi yr Atlantic Cable i lawr, atebodd yn llawn i ardderchogrwydd ei golwg.

Yn haf 1858, dyma y Parch. Humphrey Jones yn dyfod drosodd yma, o ganol gwres a chynwrf diwygiad mawr America. Cafodd afael ar D. Morgan, a rhoddodd hanes yr adfywiad iddo nes gwresogi ei ysbryd. "Cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffaethwch, gwâg, erchyll; arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall." Ei brofiad ymhen ychydig oedd, "Gwresogodd fy nghalon o'm mewn, tra yr oeddwn yn myfyrio, enynodd tân, a mi a leferais a'm tafod." Cafodd y brawd o America lawer o drafferth i'w ddeffroi o gysgu, a chafodd yntau lawer o drafferth gyda'i galon ddrwg ei hun. Ceisiodd H. Jones ganddo weddio yn nghanol meddwon mewn tafarndy, yn Pontrhydygroes, ond ni allai: gweddiodd H. J. ei hun, nes yr aeth yn rhy ofnadwy i'r yfwyr fod yno. Rhedasant allan mewn braw, ac ymguddiodd gwr y ty yn rhywle tuhwnt i'r barilau. Dymunodd H. J. arno eto weddio am fendith ar eu hymadawiad â'r dafarn a'r ddiod, ond ni wnaeth. Gweddiodd hwnw eilwaith, a chafodd y fraint o dderbyn y rhan fwyaf o honynt i'r eglwys ymhen ychydig wythnosau, pan yn