Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd hwn yn un oedd yn astudio yn ddyfal, ac yn feddyliwr cryf, ac o chwaeth goethedig. Yr oedd yn dweyd am Mr. Morgan, y gallasai ddyfod yn bregethwr da pe buasai yn llafurio; bod ynddo lawer o allu, ond nad oedd yn gwneyd un gallu yn ddau, na'r ddau yn bedwar. Ond os na ddaeth Mr. Morgan yn enwog trwy lafur personol i ddarllen a myfyrio, gwnaeth ddylanwadau goruwchnaturiol y diffyg i fyny, fel y bydd ei enw yn glodfawr tra bydd son am ddiwygiadau crefyddol Cymru. Cafodd ychydig ysgol yn ieuanc; ond er iddo ddechreu pregethu yn adeg dechreuad yr athrofeydd Methodistaidd, ni wnaeth efe ddefnydd o'r un o honynt i gael ychwaneg o addysg, ac yr oedd yn edifarhau yn fawr mewn blynyddoedd diweddarach na fuasai wedi gwneyd. Ond yr oedd ganddo allu anghyffredin i guddio ei hun pan y byddai mewn cwmni fyddai wedi cael manteision,-holi y byddai, a thynu eu gwybodaeth hwy allan, ac felly yr oedd yn ystorio llawer erbyn adeg arall, ac felly yn barhaus.

Ond awn bellach at yr hyn a wnaeth Duw iddo, a'r defnydd a wnaeth o hono. Nid erbyn diwygiad 1859 yn unig yr ymwelodd yr Arglwydd ag ef, ond gwnaeth hyny yn gyntaf i'w wneyd yn grefyddwr ac yn bregethwr. Nid oedd yn grefyddwr hyd ddiwygiad 1832. Y pryd hwnw, pan o 18 i 20 oed, profodd bethau grymus iawn ar ei feddwl,—argyhoeddiadau tebyg i'r rhai a deimlodd llawer o'r hen Fethodistiaid cyn eu codi i ymofyn crefydd. Ni wyddom pa beth, na phwy, yn neillduol, a ddefnyddiwyd i'w ddeffroi; ond bu ef am rai wythnosau heb fawr o flas at ddim, a'i gwsg wedi cilio oddiwrtho. Ond aeth ryw foreu Sabbath i fyny i Cwmystwyth, i wrando y Parch. Evan Evans, Llangeitho, y pryd hwnw, o Nantyglo, ac yno, wrth glywed am benderfynu o du yr Arglwydd, y penderfynodd yntau roddi ei hunan fel yr oedd i Grist a'i achos. Ymhen rhai blynyddau ar ol hyn, pan oedd yn grefyddwr disglaer, ac o ddefnyddioldeb mawr yn yr Ysgol Sabbothol, dechreuodd bregethu, sef pan oedd oddeutu 23ain neu 24ain oed. Yr oedd yn ddyn hardd ei olwg, yn dal, ac wedi ei adeiladu yn gadarn o ran corff. Yr oedd yn eillio ei wyneb llydan a llew-