Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brysio. Treuliodd ei oes gyda chrefydd. Bu yn athraw llafurus yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn un o'r aelodau goreu yn y dosbarth darllen oedd y Parch. Joseph Rees yn gadw yn y lle. Yr oedd prawf wedi ei gael o hono hefyd fel areithiwr dirwestol, ac hefyd fel areithiwr ar wahanol bynciau yn Nghyfarfod Dau-fisol y Dosbarth. Bu ef a Thomas Williams, Panwr, yn dadleu llawer a'u gilydd, ac hefyd yn gwneyd pynciau ysgol i'w hadrodd yn gyhoeddus. Nid oedd, oblegid y fasnach, yn gallu dyfod yn fynych i'r Cyfarfod Misol; a phan fyddai yn bresenol, ni siaradai fawr, os na byddai a rhyw genadwri neillduol ganddo. Ond yr oedd yn un o'r rhai mwyaf defnyddiol yn ei gartref. Yr oedd yn arweinydd da pan godwyd y capel mawr presenol, ar gyfer y gynulleidfa fawr, ac oddeutu 400 o aelodau newyddion a dderbyniwyd yno yn y diwygiad. Ond yr oedd yno galon i weithio ganddo ef a phawb, gan mai 1859 ydoedd. Nid oedd yn gryf o iechyd. Ac yr oedd y teithio i'r cyhoeddiadau, a bod yn gaeth yn y siop, yn bethau hollol groes i'w gilydd tuag at gadw iechyd. Yr oedd yn myned a dychwelyd y rhan amlaf bob Sabbath, ac felly byddai awyr y boreu a'r nos yn cael ei hanadlu, ac yn aml er niwed i'w iechyd. Bu farw dydd Gwener, Medi 25, 1863, a hyny yn bur ddisymwyth. Pregethodd nos Sabbath cyn hyny, oddiar 2 Cor. v. 1, fel pe buasai yn ymwybodol fod "datodiad ei ddaearol dy" yn ymyl. Priododd Awst 15, 1845, â Miss Mary Lloyd, merch Mr. David Lloyd, Excise Officer, yr hon sydd wedi ei oroesi hyd yn awr. Ar ol un oedd mor gymeradwy gan yr holl eglwysi, teimlwyd galar mawr trwy y wlad i gyd, yn enwedig yn y lleoedd adnabyddus o hono. Claddwyd ef yn mynwent y Fynachlog.

PARCH. DAVID MORGAN, YSBYTY.

Mab ydoedd i David a Catherine Morgan, Melin, Ysbyty, yn ymyl y Level a'r gwaith plwm sydd yno. Ganwyd ef. tua'r flwy ddyn 1814. Codwyd ef i fyny yn yr alwedigaeth o saer coed, a daeth yn grefftwr rhagorol. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1842, bron yr un amser ag y cododd yr enwog John Jones, Ysbyty.