Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn ei gofio yn pregethu yn y Penant ar y geiriau, "Yr ydym yn diolch i ti, O! Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddyt, a'r hwn wyt yn dyfod, oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnasaist." Yr oedd yn ddigon hawdd deall mai nid duwinyddiaeth yn unig oedd wedi ddarllen; ac yr oedd y rhai mwyaf blaenllaw yn dweyd mai nid dyn cyffredin ydoedd Onibai yr amgylchiadau y gorfu arno gymeryd eu gofal, diameu y mynasai ef fwy o fanteision i fyned yn ei flaen mewn dysg a gwybodaeth o bob math. Cyn iddo fyned i bregethu, yr oedd yn un hynod o ran ei wybodaeth eang, ei fedrusrwydd gyda phobpeth crefyddol, a'i allu i fod yn ddefnyddiol gyda phobpeth da; ei synwyr cyffredin cryf, ei farn addef, a'i gymeriad dilychwin. A diamheu mai yr elfenau hyn yn ei gymeriad oedd yn peri i'r bobl oreu a mwyaf llygadgraff yn y Bont, ei gymell i ddechreu pregethu. Yr oedd ysbryd pregethu yn gryf ynddo; ond ni fynai ei ddatguddio. Cuddio ei hun oedd duedd ef. Nid oedd yr ysbryd cyhoeddus yn gryf ynddo. Yr oedd yn rhy wylaidd, yn rhy reserved i hyny. Yr oedd yn ddyn trwm, fel y dywedir, ond yn anmharod i ddangos hyny. Gan ei fod yn un mor gall, pwyllog, ac o farn mor addfed, mynai y bobl ei gael i'w blaenori bron ymhob peth. Ond gwell oedd ganddo ef weled eraill yn y lleoedd yr oedd eraill yn meddwl y dylasai ef fod.

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, corff teneu, y wyneb yr un fath ac yn welw, a rhyw gymaint o ol y frech wen arno. Gwallt du a chrychlyd; y pen yn sefyll yn drymaidd, a thueddol i blygu tuag ymlaen yn fyfyrgar. Traddodai yn araf, heb godi fawr o'i lais hyd y diwedd. Cafodd odfaon bythgofiadwy yn niwygiad 1859, a derbyniodd ugeiniau os nad canoedd at grefydd. Yr oedd ynddo lawer a allu, gwybodaeth, a barn, ond iddo gael ysbryd digon gwresog i draddodi, a chafodd hyny i raddau pell yn y diwygiad. Gwnaed brys mawr gydag ef wedi ei gael i'r pulpud, pan mai prin yr oedd wedi treulio ei bum' mlynedd cyn iddo gael ei ddewis i'w ordeinio, ar ol ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Nid dyn ieuanc ydoedd, ac nid un dibrofiad oedd, ac felly nid oedd perygl