Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer o amser yn Ysgol enwog Ystradmeurig. Yr oedd yr athraw, sef y Parch. J. W. Morris, yn hoff iawn o hono, fel dysgwr da, ac fel un o gymeriad rhagorol. Cafodd gymhellion taer ganddo i barotoi ei hun i fod yn offeiriad o Eglwys Loegr, ond ni fynai ef ymadael â'r enwad y perthynai ef a'i rieni iddo. Mae yn amlwg hefyd fod ei rieni yn Fethodistiaid mwy goleuedig a chadarn na'r rhan fwyaf yn y dyddiau hyny. Cododd llu i'r offeiriadaeth o'r ardaloedd hyn; ac yr oedd gan Ysgol Ystradmeurig ddylanwad mawr tuag at hyny. Ac er bod yn yr un Ysgol, a'i fod hefyd yn ddysgwr mor alluog, eto daliodd ef yn gadarn yn y ffydd. Yr hyn sydd yn profi fod ei rieni yn Anghydffurfwyr da, hefyd, yw, mai hwy oedd y cyntaf i fedyddio yn hen gapel y Bont, a Mr. Morgan oedd y cyntaf hwnw. Bu yma lawer o ddadleu cyn hyny, pa un a ddylid bedyddio o gwbl gan neb heb ei fod wedi bod dan law esgob. Ond yr oedd tad a mam David Morgan yn meddu ar well barn, ac ar feddwl mwy annibynol, fel nad oeddynt yn ofni neb na dim ond eu cydwybod eu hunain a Gair Duw. Yr oedd dechreu bedyddio rhai mewn capeli yn beth anhawdd mewn unrhyw le y pryd hwnw. Ond yr oedd mwy o anhawsdra i wneyd hyny yn ymyl ysgol Eglwysig Ystradmeurig. Y gweinidog a weinyddodd y bedydd oedd y Parchedig Ebenezer Richards, Tregaron. Nid un hawdd ei dynu gan bob gallu, na chael ei siglo gan bob awel oedd Mr. Morgan; ac nid yw hyny yn rhyfedd os ystyriwn mor anhyblyg oedd ei rieni. Yr oedd Mr. Richards, Tregaron, yn arfer dweyd, ond iddo ef gael Methodistiaid da, y cawsai eu plant hefyd i'w bedyddio; a dywedai am i'r rhai hyny ddechreu ymhob lle. "Mae dynion," meddai, "yn debyg i'r defaid; ond i'r un fwyaf dewr gymeryd y blaen, daw y lleill ar ei hol."

Yr oedd yn Ysgrythyrwr mawr, Dysgodd lawer o'r Beibl pan yn ieuanc, ac yr oedd bob amser yn gwneyd hyny yn fanwl. Yr oedd adnodau at ei alwad bob amser, a gallai eu hadrodd heb wneyd cam â hwy. Yr oedd yn dduwinydd galluog. Nid y wybodaeth hon ar ei phen ei hun ychwaith oedd ei wybodaeth ef o honi; ond yr oedd yn gryn lawer o athronydd naturiol a moesol.