Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawer o'r iechyd da a gafodd yn ei flynyddoedd olaf, fel yr oedd yr olwg arno yn bur wasgedig am gryn lawer o amser cyn iddo ymadael â'r byd. Bu farw Mehefin 1, 1886, yn 63 oed, wedi pregethu am oddeutu 30 mlynedd. Yr oedd yn hollol foddlon i'r ewyllys ddwyfol i wneyd âg ef fel y gwelai yn dda. Datganai hyder cryf yn ei Geidwad. Claddwyd ef yn y fynwent tucefn i'r capel.

Ganwyd ef yn Gwarfelin, lle ar ochr y ffordd fawr o Llanbadarnfawr i Penllwyn. Yn Nantgleisiau, lle sydd am yr afon a'r lle y ganwyd ef, y bu fyw bron ar hyd ei oes; ond iddo fyned ryw gymaint yn niwedd ei oes i Llanbadarn i fyw, ac yna i dy capel, Capel Seion, lle y bu farw. Enwau ei rieni oedd Hugh ac Elizabeth Morgan.

PARCH. DAVID MORGAN, RHYDFENDIGAID.

Bu farw yn gymharol ieuanc, dim ond 42. Dechreuodd bregethu pan yn 33 oed: felly ni bu ond naw mlynedd yn y weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho, yn 1859, sef blwyddyn y diwygiad. Gelwid ef David Morgan, y Shop, yr hon a welir eto ar gyfer yr hen gapel, lle y mae Mrs. Morgan yn myned ymlaen a'r fasnach. Ganwyd ef yn Tymawr, yr hwn sydd oddeutu lled cae o'r pentref, a hyny yn y flwyddyn 1821. Enwau ei rieni oeddynt David a Jane Morgan, y rhai a gladdwyd y tucefn i'r hen gapel. Yr oedd yn un o chwech o blant. Bu farw ei dad yn ieuanc; ac oblegid hyny, daeth gofal y teulu arno ef a'i fam. Yn Rhagfyr, 1843, bu farw ei fam hefyd, gan adael yr holl ofal arno ef. Yr oedd ei rieni yn bobl dda a chrefyddol, a bu marw yn elw iddynt. Yr ydym yn deall fod chwant pregethu wedi bod ar Mr. Morgan flynyddoedd lawer cyn iddo ddechreu ar y gwaith; ond y mae y gofalon teuluaidd a ddaeth arno, yn rhoddi eglurhad paham na ddechreuodd yn gynt, a phaham na bu mewn coleg, Bu yn fwnwr am rai blynyddoedd; ac o'r diwedd, ymsefydlodd yn y Shop, lle y bu am y gweddill o'i oes. Dywedir iddo wneyd ei oreu dros y plant eraill, a hyny ymhob modd canmoladwy, fel na welsant fawr o angen eu rhieni.

Cafodd fwy a gwell ysgol na'r cyffredin yn ei ardal. Bu am