Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dduwinyadiaeth. A hyn oedd yr achos ei fod yn holwr mor fedrus ar yr Ysgol Sabbothol; byddai ef yn uwch gyda hyn na llawer oedd yn cael eu hystyried uwchlaw iddo ef fel pregethwr. Yr oedd ganddo fedr neillduol hefyd i gadw cyfarfod eglwysig yn adeiladol. Yr oedd yn coffhau yn fynych am Bunyan, Mathew Henry, Gurnal, a'r hyn fyddai yn ddarllen ac yn glywed am ddigwyddiadau yr amseroedd. Gwyddai heth oedd dal cymundeb â Duw; a gwyddai gryn lawer am brofedigaethau yr anialwch, ac yr oedd hyny yn ei gymhwyso i gyfarwyddo pererinion trafferthus eraill.

Pan gladdodd ei wraig gyntaf, cafodd lawer o brofiad o'r cynorthwyon nefol. Bu farw pan oedd ef o gartref yn pregethu; a phan glywodd y newydd, bu bron ag ymollwng i rwgnach, ond cafodd allu i ymdawelu. Y geiriau fu yn fwyaf o gymorth iddo oedd, "Yr Arglwydd hefyd a ddifroda dafod môr yr Aifft, ac â'i wynt nerthol efe a gyfyd ei law ar yr afon, ac a'i tery hi yn y saith ffrwd, ac a wna fyned drosodd yn droedsych." Pan ofynodd cyfaill iddo beth oedd yn gael mewn adnod mor annhebyg i'w amgylchiad ef, dywedodd, "O! peth mawr oedd myned trwy saith o ffrydiau yn droedsych! Mae llawer o hen ffrydiau dyfnion mewn claddu gwraig; ond mi ddaethum i ddeall oddiwrth y geiriau yna ei fod yn meddwl fy nghadw heb suddo na myn'd gyda'r llif. Ac yr oeddwn yn gwel'd mwy na hyny hefyd, mewn myn'd a fi trwodd yn droedsych. Ar bwys hona, daeth yr adnod hono ataf Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi' Yr oedd yn dweyd yn groew yn hona na chawn i ddim o'n arbed heb fyn'd trwy y dyfroedd; ond yr oedd yr adnod arall yn dweyd ei fod ef yn myned i'w rheoli, fel na chawn yr un niwed trwyddynt. Bu yn dywydd mawr arnaf, ond cefais ef yn ffyddlon i'w addewid."

Dyn o daldra cyffredin ydoedd, corff esgyrnog a llydan, yn cerdded y rhan fynychaf gydag umbrella yn ei law. Wyneb llydan a gwallt melyngoch, pan heb droi yn wyn; a whiskers byrion hyd haner ei gernau. Safai yn syth, a lled ddigyffro ymhob man. Ei brif ddiffyg wrth bregethu oedd bod yn rhy dawel ac undonog. Yr oedd ei bregethau yn llawn o fater da, a medrai ei drin yn gyson a goleu. Collodd