Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma yn beth amlwg i bawb, trwy fod y dynion yn aml yn y moddion fel gyda'u hymborth naturiol; trwy ymddidoliad oddiwrth y byd a'i arferion; a thrwy wneyd daioni i bawb."

"Mae dynion yn dirmygu y Gair pan yn peidio ei ddarllen yn ddigon mynych; pan yn cymeryd rhanau o hono mewn ymddiddan cyffredin i beri chwerthin ac ysgafnder; pan yn ddifater am wneyd yn ei ol; a phan yn ddilafur am gael profiad o'i addewidion."

PARCH. DAVID MORGAN, CAPEL SEION.

Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1823. Ni chafodd fawr o fanteision addysg, ond rhyw ychydig y gauafau yn ei gymydogaeth ei hun yn ol arfer y dyddiau hyny. Bu peth awydd pregethu ynddo yn ieuanc; ond nid oedd yn ddigon cryf i'w amlygu, gan nad oedd eto yn aelod crefyddol; ac am lawer o amser wedi dyfod yn aelod, nid oedd yn meddwl y gwelid ef byth yn bregethwr. Ond mewn amser marwaidd ar grefydd, sef tua 1855 ac 1856, pan oedd yn bur flaenllaw gyda'r achos, a'i ddefnyddioldeb yn yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol yn fawr, ac amryw yn dweyd wrtho mai pregethwr ddylasai fod, aeth y teimlad yn drech nag ef, a dechreuodd ar y gwaith. Dywedodd wrthym iddo edifarhau lawer gwaith iddo ddechreu erioed; ond ar ambell i odfa hwylus fyddai yn gael. "Cefais dipyn o fy anadl," meddai, "yn y diwygiad diweddaf, neu nid oes fawr o ddefnyddiau pregethwr ynof fi."

Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn gweithio gyda hi y rhan fwyaf o'i oes. Wedi ei ordeinio yn 1868, daeth yr alwad am dano yn fwy. Tebygol mai i Saron, Llanbadarn, yr aeth yn aelod crefyddol, ond yn capel Seion y dechreuodd bregethu. Yr oedd yn ddefnyddiol iawn yn ei eglwys gartref, a gwasanaethai lawer ar yr eglwys fechan yn Horeb, ar gais y Cyfarfod Misol. Yr oedd pawb yn hoff o hono fel dyn, gan ei fod yn meddu synwyr cyffredin cryf, ac yn addfwyn a diniwed yn ei holl ymwneyd â dynion. Ei brif ragoriaethau fel pregethwr oeddynt ei fod yn deall duwinyddiaeth yn dda, a'i fod yn bur gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau. Anhawdd fyddai ei drechu mewn dadl ar bwnc o