Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan glywodd am ei farwolaeth, oadd y geiriau hyny, "Daniel, wr anwyl," a'u bod yn dyfod yn aml i'w feddwl pan welai ef yn dyfod i'w gyfarfod. Bu yn gyfaill gyda Mr. Richards, Tregaron, ac eraill, pan ar deithiau, a thystiolaeth pawb oedd na ddymunent ei well.

Ni bu ei gystudd diweddaf ond byr. Pan ddaeth Mr. John Alban, blaenor Rhiwbwys, ato dywedodd, "Ofn y llyfrau sydd arnaf ynghylch y pregethu, nid oes arnaf ofn fy nghyflwr. Ac y mae hyn genyf i ddweyd am y pregethu, os aethum heb fy ngalw, nid arnaf fi yr oedd y bai," gan feddwl, mae yn debyg, mai ei gymell a gafodd. Dichon hefyd ei fod yn meddwl, fel Jeremiah, iddo gael ei orchfygu gan awydd at y gwaith. Bu farw Hydref 11eg, 1860, yn 62 oed, wedi pregethu am oddeutu 33 o flynyddoedd, a'i ordeinio yn Nghymdeithasfa Trefin. Claddwyd ef yn Eglwys Llanddeiniol.

Engraifft o'i bregethau. Ei destyn oedd Gen. vi. 3. Fod y fath beth yn bod a bod Duw yn ymryson & dynion-trwy gydwybod, trwy ei air a'r efengyl, trwy gystuddiau a gorthrymderau. Fod y fath beth yn bod hefyd a bod Duw yn tewi wrth ddynion,—pan yn cymeryd eu breintiau oddiwrthynt, fel Chorazin a Bethsaida, a Jerusalem; pan yn eu rhoddi hwythau i fyny i galedwch barnol, fel Israel, Esai. vi. 9, 10, a'r cenhedloedd paganaidd, Rhuf. i. 24. Dyma farn y barnau, a thrymach na saith mlynedd o newyn. Yr achos o hyn,—parhau i synied yn gnawdol am bethau ysbrydol a dwyfol, Mat. xvi. 23; Rhuf. viii. 5, 7, 8; a Phil. iii. 19; parhau i gynal pethau i fyny sydd yn groes i lais cydwybod a'r efengyl, Jer. v. 23, 24; parhau i droi'r glust fyddar at lais cynghorion a rhybuddion, Diar. i. 20-25; Marc viii. 17, 18. Cofiwch mai ymryson â Duw yr ydych, yr Anfeidrol ddoeth a Hollalluog, Job ix. 3, 4; Esai. lxv. 9. Chwi gaiff y gwaethaf: "Ymaflwch yn ei nerth, fel y gwnelo heddwch a chwi."

Dywediadau," Cyn byw yn dduwiol, mae yn rhaid cael anian i garu Duw; rhaid cael ystyriaeth o'i bresenoldeb gyda ni a'i "adnabyddiaeth o honom; rhaid credu Gair Duw, ac ymhyfrydu ynddo; a rhaid ymgyflwyno yn llwyr i'w wasanaeth. Mae byw fel