Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaflyd ynddo ar y pryd, ac er ymdrechu ymladd yn erbyn am ychydig, "trugaredd ga's y trechaf." Daeth yn weddïwr hynod. Pan yn cael ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Trefin, dywedodd yn y cyfarfod neillduol ain un ymdrechfa fu rhyngddo â Duw mewn ysgubor, nes yr oedd pawb yn teimlo mai da oedd bod yno. Dywedai iddo fod yno am oriau, ac iddo deimlo fel pe buasai ei rwymau yn myned yn rhydd. "Yr wyf yn meddwl," meddai, "fod rhywbeth y pryd hwnw wedi ei wneyd na allai dim ond Duw ei gyflawni."

Bu yn molianu a gorfoleddu llawer yn yr odfaon, ac aeth son mawr am dano fel gweddïwr rhagorol, ac fel un o dduwioldeb diamheuol. Yr oedd llawer yn siarad ag ef ynghylch pregethu, ond ni fynai ef addef ei awydd i hyny am beth amser. Yr oedd Mr. Richards, Tregaron, wedi cael ei hysbysu am dano; ac ar amser Cyfarfod Misol, yr hwn oedd i fod yn Ponterwyd, dywedodd wrtho fod yn rhaid iddo ddyfod yno gydag ef. Yr oedd ein hysbysydd yn dweyd iddo fyned, ac iddo ddyfod adref yn bregethwr. Cadw ysgol yn Blaenplwyf yr oedd ar y pryd. Gallem feddwl mai cael ei dderbyn yn bregethwr rheolaidd, ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol, yr oedd ar y pryd. Mae ei fod yn cadw ysgol yn rhyw arwydd ei fod yn bregethwr ar brawf cyn hyn. Yr oedd oddeutu 30 oed pan ddechreuodd.

Daeth i fyw i Ty'nrhos, yn agos i Rhiwbwys, a bu yn gweithio yn galed ar y fferm trwy ei oes. Golwg gweithiwr oedd arno bob amser. Gwyneb hir a choch oedd ganddo, a chnwd o wallt du ar ei ben, heb fawr wedi troi yr wyn o hono yn niwedd ei oes. Pan yn siarad neu yn pregethu, yr oedd fel yn gorfod llyncu ei boeri yn bur fynych, a'i lefariad o'r herwydd yn myned yn anystwyth a thrwstan, Rhy undonog oedd; a phan waeddai, yr oedd y waedd heb ddim yn hyfryd o ran llais. Yr oedd yn weddol dal o gorff, ond yn deneu trwy ei oes. Beth bynag, yr oedd yn ddyn gwerthfawr iawn i'w eglwys gartref, ac i'r holl eglwysi, gan fod perarogl Crist bob amser ar ei berson a'i bregethau. Yr oedd yn un o'r cyfeillion mwyaf caruaidd a didwyll a fagodd Cymru. Dywedai Mr. Edwards, Penllwyn, yn ei gladdedigaeth, mai y peth cyntaf ddaeth i'w feddwl ef