Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ent yn gryno, yn oleu, a melus ar bob un o honynt, a therfynent heb i neb ddiflasu arnynt. Gallai Mr. Lewis waeddi, ond ni wnaeth fawr o hyny yn ein clyw ni, ond unwaith, sef pan bregethodd yn y Penant noson waith i dyrfa fawr o bobl oedd wedi dyfod ynghyd i wrando y Parch. John Evans, Llwynffortun, ond hwnw wedi methu, oblegid ei gystudd olaf. Yr oedd y rhan fwyaf yn dywedyd nad oedd eisiau i neb weled colled y noswaith hono, hyd yn nod ar ol yr enwog Mr. Evans. Gallai ef bregethu pa bryd bynag y gelwid arno, ac nid oedd gwahaniaeth pa mor fyr y byddai y rhybudd. A byddai hyny a ddywedai yn sicr o fod yn gall, y cysylltiadau yn hollol eglur, a'r amcan i adeiladu a chysuro yn fwy yn y golwg, nag argyhoeddi.

Bu yn ddefnyddiol iawn yn eglwys y lle a'r eglwysi cylchynol am flynyddoedd lawer, yn enwedig gan ei fod mor gartrefol. Cafodd ei gystuddio ar hyd y blynyddoedd, fel nad oedd neb yn meddwl llawer am ei farw pan ddaeth. Bu farw yn Ionawr, 1874, pan yn 75 oed. Bu yn pregethu am dros 50 mlynedd, ac ordeiniwyd ef yn 1857, yn Nghymdeithasfa Trefin.

M

PARCH. EDWARD MASON, RHIWBWYS.

Brodor ydoedd o Blaenplwyf, yn agos rhwng y lle hyny a Llanilar. Gwas amaethwyr fu am flynyddoedd, ac un hynod mewn annuwioldeb. Yr oedd ganddo fam hynod mewn duwioldeb, a thanbaid mewn sancteiddrwydd. Ni adawai lonydd i nemawr neb heb son am fater euaid; a phan y byddai yn myned at y ffermydd ar adeg neillduol o'r flwyddyn i ofyn am ŷd a blawd, pregethai lawer cyn dyfod yn ol erbyn y nos. Er cymaint a weddiai dros Edward, ac a gynghorai arno, ni theimlai fawr am flynyddoedd. Ond pan oedd gartref ryw dro, ac yn clywed ei fam ar y weddi deuluaidd, ac yn taeru gerbron ei Thad nefol mai ei waith ef yn unig oedd achub ei mab annuwiol, gwaeddai, "Gafaela ynddo, gafaela ynddo." Dechreuodd trugaredd