Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hebrwng felly yn parhau am amser maith, gan mor anhawdd ymadael.

Yr oedd yn un nodedig am ei synwyr cyffredin cryf, yn hynod am gadw ei hun allan o gwerylon, y rhai yn y cyffredin y byddai yn ddigon craff i ragweled eu dyfodiad. Yr oedd achub ei ben, a chadw ei gymeriad crefyddol yn anrhydeddus, yn amcan ganddo ymhob peth. Daeth Temlyddiaeth i'r Penant ryw ychydig cyn iddo farw. Yr oedd ganddo barch mawr i ddirwest, a chlywsom ef yn dweyd iddo ddyfod allan gyda'r achos yn ei gychwyniad cyntaf. Yr oedd yn clywed llawer am y daioni mawr yr oedd y symudiad temlyddol yn wneyd, ond nid oedd ef hyd yma wedi ymuno â'r deml. Beth bynag, digwyddodd siarad âg un brawd crefyddol oedd wedi arfer yfed rhyw gymaint trwy ei oes, a dywedai hwnw wrtho, "Mae yn dda gyda ni eich bod chwi y tucefn i ni, ac heb ymuno â'r babyddiaeth yma sydd yn awr yn y wlad; yr ydym ni yn dweyd pe byddai rhyw ddaioni ynddo, y byddai Thomas Lewis yn sicr o fod wedi taro allan gyda'r cyntaf o'i blaid, gan mai dyna yw ei arfer erioed." "Felly," meddai yntau, "dydd da i chwi yn awr." Y noson hono yr oedd y deml i'w chynal, ac aeth yno yn ddistaw i gael ei dderbyn yn aelod. Dywedodd fod ganddo ef ormod o barch i ddirwest i gadw draw oddiwrth symudiad oedd yn gwneyd cymaint o les. Nid yw hyn ond un engraifft o lawer o rai cyffelyb yn ei hanes ef.

Nid oedd yn dal o gorff. Gwallt du, gwyneb crwn, a whiskers hyd haner ei gernau. Golwg welw a gwasgedig oedd arno pan ydym yn ei gofio gyntaf. Cerddai a'i ben tua'r llawr, a'i ddwylaw ar ei gefn. Yr oedd yn fynych wrth siarad a phregethu yn estyn ei wddf, ac fel pe byddai yn codi gwynt o'i ystumog, a rhoddi math o ysgydwad i'w ysgwyddau. Nid ydym yn meddwl nad arferiad oedd hyny fynychaf, ond arferiad wedi hir ddioddef oddiwrth ddiffyg treuliad. Ni wyddom pa fodd yr oedd cyn y troad yn ei iechyd. Yr oedd ei bregethau yn rhai Ysgrythyrol, cysylltiol, a hawdd eu deall a'u cofio. Yr oedd pobl yn dweyd mai efe a'r Parch. Thomas Jones, Nebo, gweinidog Annibynol, oedd a'r pregethau tebycaf i'w gilydd o bawb oeddynt yn glywed. Pregeth o dri neu bedwar o benau, a chynifer a hyny o rai mân ar bob un o'r cyfryw, a thraeth-