Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

igaeth fydol, a ddysgodd yr hen oracl iddo, ond gwnaeth gryn lawer o'r un grefyddol. Gan i'r blynyddoedd 1820-30 fod yn bur gyflawn o adfywiadau crefyddol, mae yn debyg mai yn yr un a dorodd allan yn 1819, ac a barhaodd am oddeutn 3 blynedd, y bu y dylanwad grymus ar ei feddwl ef, yr hwn a wnaeth iddo ddechreu pregethu. Wedi dechreu, aeth at y Parch. Dr. Phillips, Neuaddlwyd, i'r ysgol, yn yr hon y bu am 2 flynedd. Yr oedd y Parchn. David Morgan, Trallwm, a John Rees, Tregaron, yno yr un pryd ag ef. Tra bu ei iechyd yn gryf, yr oedd ei weinidogaeth yn rymus a chymeradwy iawn; ond rhywbryd cafodd wely damp, ac ni ddaeth yn gryf byth ar ol hyny. Aeth yn ofnus i fyned i deithiau pell; ac nid oedd yn foddlon heb gael myned a dyfod y Sabbath. Gwisgai lawer am dano, a hyny oblegid ei bryder am ei iechyd.

Oblegid ei fod wedi cael ysgol weddol dda i ateb i'r adeg hono, penderfynodd wneyd defnydd o honi i wneyd cymaint o ddaioni ag a allai mewn dysgu ernill. Cafodd alwad i gadw ysgol yn y Penant, ac ufuddhaodd i ddyfod. Priododd â Miss Sarah Jones, merch David a Mary Jones, Cilgwganfach, ger Aberaeron, yr hon a fu yn aros gyda'i hewythr Zacheus, Penllyn, Penant, ac a gafodd y lle ar ei ol, a Pencwm hefyd, lle y bu Mr. Lewis a hithau byw am y gweddill o'u hoes. Darfu iddynt godi siop yn y lle, a chafodd ef a hithau ddigon o waith bellach i ofalu am hono a'r weinidogaeth, heb iddo ef wneyd dim arall. Clywsom yr hen bobl yn dweyd am dano fel siopwr, ei fod yn codi y ddimai, ac yn rhoddi ei gwerth, ac nad oedd raid ofni anfon plentyn ato, gan y cawsai hwnw yr un fath a'r hwn a ddadleuai ag ef am y pris. Yr oedd yn siriol i bawb, ac yn tynu siarad fyddai yn gwneyd iddynt deimlo yn gartrefol gydag ef. Ond yr oedd yn ddigon o foneddwr i gadw pellder anrhydeddus rhyngddo a phob dyn. Yr oedd yn un o'r cyfeillion goreu ddarfu i ni adnabod erioed. Yr oedd bob amser yn hamddenol, a phan fyddai materion ymddiddan at ei archwaeth, anhawdd oedd ganddo roddi i fyny y gyfeillach. A rhaid cael dweyd hyn, iddo roddi tro am gyfaill oedd ddwy filldir oddiwrtho lawer gwaith, hwnw yn ei hebrwng, yntau yn dyfod yn ol gydag ef drachefn, a'r cwrdd