Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un oedd yn rhoddi tystiolaeth gref ac agored yn erbyn pob math o drais a gorthrwm ar y naill law, a gwaseidd-dra gwlanenaidd ar y llall; a gwaeddai yn groch, "Sefwch at eich egwyddorion, neu cael eich gorthrymu byth gewch chwi."

Enillodd iddo ei hun barch mawr yn nhref Aberteifi ac yn y wlad gan bob Rhyddfrydwr gonest; ac enillodd hefyd, ymddiried y blaid arall fel un y gwyddent pa le i'w gael ac nad oedd modd ei symud. Fel hyn y cafodd ei ddyrchafu i bob swydd o bwys yn y dref, sef aelod a chadeirydd ar y Bwrdd Ysgol, yn y Cyngor Trefol, ac i fod yn faer y dref; a brysiai o bob cyfeiriad pan yn y wlad, i fod yn bresenol gyda'r swyddau hyn. A thystiai pawb nad oedd neb ffyddlonach nag ef yn y cyflawniad o honynt. Yr oedd ei gladdedigaeth yn brawf o'r oil, gan fod y mawrion o bob gradd ynddo. Cafodd ei ordeinio yn Nghymdeithasfa Trefin, yn 1857. Bendithiwyd ef âg iechyd, a graddau helaeth o gryfder corff ac yni ysbryd, trwy ei oes, hyd y flwyddyn olaf y bu fyw, pan dorodd ei iechyd i lawr yn gyflym oblegid i'r cancer ymaflyd ynddo. Bu farw Ionawr 7fed, 1892, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn cemetery y dref. Dywedodd lawer o'r hymn, "'Rwyf yn foddlawn iawn i 'mado." Mynodd weinyddu cymundeb, efe a'i fab, i gofio angau ei Waredwr, a theimlai yn hyderus a llawen yn y gwaith.

L

PARCH. THOMAS LEWIS, PENANT.

Ganwyd ef yn Dolhalog, ger Aberaeron, a hyny pryd nad oedd tref Aberaeron wedi dechreu cael ei ffurfio. Yr oedd yn arfer dweyd fod ei oed ef yn cydredeg a'r ganrif, felly, tebygol ei fod yn meddwl iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1800. Enwau ei rieni oedd Lewis a Gwenllian Lewis. Bu yn dysgu yr alwedigaeth o wnïedydd gyda'r hen flaenor enwog David Hughes, Ffosyffin. Daeth llawer at grefydd tra yn byw yn awyrgylch grefyddol hwnw; ac felly y bu gydag yntau. Ond ni wnaeth ef lawer o wasanaeth gyda'r alwed-