Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bryscaga, Bow Street, gallem dybied mai y pryd hwnw y cafodd droedigaeth. Yr oedd cynwrf diwygiad ar y pryd yn y wlad, ac felly yn Penygarn. Daeth dau ddyn dieithr heibio, a chawsant odfa effeithiol iawn. Y pryd hwnw yr oeddynt yn ei golli yn fynych, ac o'r diwedd, gwelwyd ei fod yn myned o dan gysgod coeden fawr oedd yn ymyl, ac yn gweddïo. Collodd ei holl flas at bleserau y byd. Ac yr oedd y ferch hono yn benderfynol fod Mr. Jones yn ddyn duwiol byth ar ol hyny. Darllenodd a dysgodd lawer o'r Beibl y pryd hwnw, a daeth yn fwy hynod mewn crefydd na braidd neb o'i gyfoedion. Ni ̧wyddom a aeth adref wedi dyfod ei amser i ben yn y lle uchod, ond gartref yr oedd pan aeth i brêgethu; a bu hyny tua'r flwyddyn 1841, pan oedd yn 24 oed. Priododd â Miss Griffiths, merch y Parch. David Griffiths, Llantwit, Sir Benfro, pregethwr rhagorol gyda'r Methodistiaid yn y dyddiau gynt. Am ychydig ar ol priodi, buont yn byw yn Plas, Rhydfelin; ond yn fuan symudasant i Aberteifi, yn hytrach i ochr Sir Benfro o'r dref, lle y buont am flynyddoedd yn cadw siop. Yr oedd elfen cadw tir yn Mr. Jones, a bu yn cadw fferm am flynyddoedd, a Mrs. Jones yn gofalu am y fasnach. Yr oedd ef a llawer o rai eraill yn byw mewn amser pan edrychai y Methodistiaid yn isel ar bregethwr os na byddai ganddo ryw alwedigaeth heblaw pregethu. Tua diwedd ei oes, symudodd i'r tŷ oedd ganddo yn y dref, lle y mae ei fab yn awr yn myned ymlaen â'r siop.

Yr oedd Mr. Jones yn ddefnyddiol mewn llawer o gylchoedd. Cymerai, ran flaenllaw yn nhrefniadau y Cyfarfod Misol, a gwyliai yn bur fanwl symudiadau y Cyfundeb. Ond nid oedd yn gallu cydweled â holl agweddau y symudiad bugeiliol; ac arferai ddweyd na chymerai ef byth fugeiliaeth. Byddai ei law yn drom ar rai pethau eraill sydd yn dyfod i fri yn yr oes hon. Dywedai ef ei feddwl am wahanol bethau yn rhydd ac agored, ac os oedd i'w feio, dichon mai myned i eithafion weithiau y byddai yn hyny. Yr oedd yn cael ei gyfrif yn wleidyddwr da, ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. Daeth allan yn etholiadau 1865 ac 1868, ac eraill, gydag egni ac ymroddiad mawr, fel yr aeth son am dano fel y cyfryw ymhell, fel