Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r Amwythig am ryw gymaint, gan fod Mr. Thomas Jones, blaenor yr eglwys yno, yn frawd iddo. Wedi iddo ddyfod adref, bu yn ddefnyddiol iawn yn y gangen-ysgol oedd yn Smelting, lle y mae Capel mynach yn awr. Holai yr ysgol yno bob mis; ac er fod hyny yn costio cryn lafur iddo, ni chymerai ddim am y gwaith. Gwnaeth trwy hyny lawer o les iddo ei hun: daeth yn dduwinydd da, ac yn bur gyfarwydd yn yr Ysgrythyrau. Cafodd air da am hyny trwy ei oes. Buom yn sylwi arno weithiau yn holi yr ysgol, ac yn gweled ei fod yn alluog i roddi cwestiwn duwinyddol da a chryf, a hyny yn fynych wrth fyned ymlaen.

Pan yn dechreu dyfod yn adnabyddus i'r wlad fel pregethwr, cyfrifid ef yn un da; ac ar amserau, yr oedd yn cael odfaon grymus, nes ei wneyd yn boblogaidd a dylanwadol. Yr oedd yn pregethu ar y testyn, "Daeth yr awr," am yr hon y bu llawer o siarad, a chododd yntau i sylw. Yr oedd rhai o'r hen bobl yn ofni fod cryn lawer o falchder ynddo, ac eraill yn dweyd mai ei ffordd oedd y cwbl, a bod yr oll yn hollol naturiol. Dyn tal a golwg wledig dda arno. Gwallt a whiskers yn wineugoch. Llais cryf, bygythiol, a'r darn isaf o'r ên yn cydio yn yr uchaf yn fynych, a'r llaw yn trin y whiskers neu y wyneb yn rhywle. Safai yn gam yn y pulpud, fel ymhob man arall. Traddodai yn weddol araf, ond cyflymai pan ar gyrhaeddyd ryw climax y byddai yn cyfeirio ato, a chodai hefyd ei lais ar y pryd, gan fod yn fwy bygythiol fyth. Sinai ac Ebal oedd ei hoff fynyddoedd ef, ond yr oedd yn gyfarwydd hefyd â Gerizim a mynydd Seion. Clywsom rai pregethau efengylaldd a grymus iawn ganddo. Yr oedd yn anelu y rhan fynychaf at bechodau yr oes; ac wrth glywed y bregeth ar y testyn hwnw ganddo mewn Cyfarfod Misol, "Llosgodd y fegin, gan dân y darfu y plwm, yn ofer y toddodd y toddydd; canys ni thynwyd y rhai drygionus ymaith," mae yn anhawdd genym feddwl na wnaeth lawer o les, gan ei bod mor gyflawn o ddeddf ac efengyl.

Cyn iddo ddechreu pregethu, bu yn gwasanaethu mewn amryw o ffermydd ar hyd y wlad. Ac oddiwrth yr hyn a glywsom gan forwyn oedd gydag ef yn cydwasanaethu, pan oedd yn was yn