Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadael mwy o lonydd i ddynion, gallai fyned yn llawer mwy esmwyth trwy y byd nag yr aeth."

Dywediadau: "Mae Duw wedi darparu pob peth at amgylchiadau y Cristion. Yr wyf yn cofio llawer o hen grefyddwyr yma, y rhai oedd yn enwog yn eu dydd am eu bod wedi profi pethau rhyfedd. Gallwn ninau ddweyd: Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, a dylai, oblegid hyny fod yr un ffrwythau arnom ni ag oedd arnynt hwy. Er hyny, mae rhyw anystwythder yn bod, fel na ellir tori dynion at waith crefydd fel cynt. Ceir hwy i areithio a chanu, ac efelychu gweddio, os bydd ar y dernyn fydd ganddynt hwy wedi ddysgu, ond ni cheir hwy i weddio. Mae arnaf ofn mai dynion gweiniaid fydd y rhai hyn i sefyll temtasiynau. Dywed Gurnal fod y rhai na ymgymero â holl ddyledswyddau crefydd, fel dyn yn myned i'r gwely y nos a drws ei dy yn agored, ac felly yn temtio y lleidr i ddyfod i fewn. Gwelais yn y Twr yn Llundain, hen filwyr ar geffylau a dim ond eu llygaid heb eu cuddio gan arfogaeth, yr oedd yn rhaid i'r llygaid fod i gael gweled y gelyn: dylai y saint hefyd wisgo holl arfogaeth Duw."

"Ar ei ddyfodiad i'r byd, nid oes eisiau gofyn a yw y plentyn yn fyw, mae ei lef yn ddigon i brofi hyny. Mae yr anian dduwiol yn llefain Abba Dad. Mae cyfansoddiad iach ag archwaeth at fwyd, felly nid oes eisiau cymell dynion crefyddol iachus i'r moddion, mae eu heisiau yn eu dwyn yno. Jenkin Davies, Twrgwyn, yn dweyd mai un hynod oedd John Elias o Fon, am ddweyd pethau fel y deallai pawb, darluniai ef yr anian dduwiol fel peth oedd Duw yn roddi yn enaid dyn oedd yn myned a'r holl ddyn yr un ffordd ag ef."

PARCH. WILLIAM JONES, ABERTEIFI.

Mab ydoedd i Evan a Margaret Jones, Pantglas, yn agos i gapel Trisant, heb fod ymhell o Pontarfynach. Gwehydd oedd ei dad. Yr oedd ei fam yn ddynes grefyddol iawn. Yr oedd Mr. Jones o duedd grefyddol er yn fachgen, ac amlygai duedd gref at bregethu ymhell cyn iddo ddechreu ar y gwaith. Ar ol dechreu, aeth i ysgol