Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

groesau y byd ar hyd ei oes, ac aeth trwyddynt heb amlygu eu bod yn effeithio rhyw lawer ar ei ysbryd na'i gorff. Er fod Mr. Jones ac yntau wedi byw yn hir, hi yn 77 ac yntau yn 76, eto darfu iddynt gladdu eu plant i gyd ond un o'u blaen, ac amryw o honynt yn fabanod. Gan i fferm Cefngwyn gael ei gwerthu, gorfu arno ef ei gadael, a myned i fyw i dŷ a thyddyn o'i eiddo ei hun o'r enw Penlôn, yn ymyl y Penant a'r lle yr aeth hi ac yntau i'r bedd o hono. Efe ddylasai brynu Cefngwyn, y lle y bu Mrs. Jones ynddo bron dros ei hoes, a'r lle y bu yntau fyw gyda hi am flynyddoedd lawer, ac yn cael mantais y brydles oedd arni, nes crynhoi llawer o gyfoeth. Daliodd y cyfnewidiad hwn heb wneyd fawr o'i ol arno. Cyfarfyddodd â damwain ar ol hyn gyda'r peiriant dyrnu, barodd iddo gael tori ei law a pheth o'i fraich chwith ymaith. Daliodd i'w thori heb un meddyglyn mor wrol, fel y gofynodd i'r meddygon, "Wel, a ydych wedi gorphen ?" Pan atebwyd ef yn gadarnhaol, dywedodd, "Fe ganiatewch i fi gael ysmocio pibellaid bellach," a gwnaeth hyny yn hollol gryf a hamddenol. Claddodd Mrs. Jones ychydig o'i flaen, a chafodd gymorth i ddal hyny heb ymollwng fawr. Bu yn glaf am oddeutu tri mis ddechreu y flwyddyn 1893, ond gwellhaodd, a bu yn pregethu amryw Sabbothau. Y lle y llefarodd ddiweddaf oedd mewn cysylltiad âg eraill yn nghladdedigaeth priod y Parch. Evan Evans, Penant. Ymhen wythnos, yr oedd yn cael ei gladdu yn yr un fynwent, sef un Llanbadarn, Trefeglwys. Cafodd ei daro â'r parlys mud, a bu farw Mehefin 5ed, 1893.

Yr oedd o feddwl galluog. Yr ydym yn cofio amryw o bregethwyr dieithr, ar ol ei glywed yn siarad, yn dweyd, "Mae yn y dyn yna lawer o allu." Pe buasai yn cael hamdden i astudio a gwneyd pregethau, gallasai o ran ei dalentau ymgodi yn llawer uwch nag y gwnaeth. Gwnaeth ei oreu i ddilyn Cyfarfodydd Misol, a bu o ddefnydd mawr ynddynt. Er nad oedd yn gynlluniwr diogel, eto llanwai le mawr trwy ei fedrusrwydd i siarad yn y seiat, wrth bregethu, ac wrth ymddiddan â'r blaenoriaid a phregethwyr. Nid oedd pawb yn hoffi ei ffordd mewn rhyw bethau, ac yr oedd yr hyn a ddywedodd brawd yn ei gladdedigaeth yn wir, "Pe byddai ef yn