Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

siarad yn hamddenol gyda llais deniadol i gynulleidfa, heb ryw lwyth mawr o bregeth, ond yr oll yn rhwydd a melus i'r bobl, ac yntau yn traddodi fel y mynai. Dyna yr argraff osodai ar feddwl pob un wrth ei wrando, a gwnelai yr efengyl felly yn ddeniadol i'r gwrandawyr. Pesychai yn fynych, nid am fod angen arno, ond fel dyn call yn cymeryd hamdden i feddwl yn gystal a siarad. Nid oedd yn gofalu fawr am drefn; ond eto yr oedd ganddo amcan, a byddai y rhan fynychaf yn llwyddianus i'w gyrhaeddyd, gyda blas mawr i gorff y gynulleidfa. Cafodd lawer o odfaon grymus yn y De a'r Gogledd mewn Cymanfaoedd a Chyfarfodydd Misol, yn gystal ag ar y Sabbothau. Dyma un engraifft o'i ddull buddiol o bregethu:-Y testyn yw, Salm li. 12: "Gwelwn yma laf, Fod gan Dduw iachawdwriaeth; 2il, Fod gorfoledd yn perthyn iddi; 3ydd, Fod Dafydd wedi bod unwaith yn ei feddu; 4ydd, Ei fod yn awr wedi ei golli; 5ed, Wedi ei golli, daeth i weled ei werth, ac i geisio cael ei fwynhau drachefn.—I. PA BETH A FEDDYLIR WRTH FOD DYN YN COLLI GORFOLEDD IACHAWDWRIAETH. (1) Yn nacaol; (2) Yn gadarnhaol-colli yr Ysbryd cyn ei weithrediadau goleuol a dyddanol. II. YR ACHOS FOD DYNION YN COLLI Y GORFOLEDD HWN. (1) Byw ymhell oddiwrth Dduw; (2) Ymddiried gormod yn eu nerth eu hunain; (3) Esgeuluso moddion gras mewn peidio dyfod iddynt, ac wedi dyfod iddynt; (4) Cellwair â phechod. -III. Y PWYS O GOLLI Y GORFOLEDD HWN (1) Ni gollwn ysbryd mabaidd; (2) Collwn wyneb yr Arglwydd; (3) Collwn ein defnyddioldeb gyda chrefydd. Gwelwn y gofal ddylem gymeryd am ein crefydd. Y rhai sydd yn teimlo eich gwrthgiliad, gwyddoch lle i fyned etoo am adnewyddiad y gorfoledd." Byddai ef yn dweyd - adnodau, hymnau, a hanesion, wrth fyned ymlaen i egluro ei faterion; a gall pob darllenydd weled fod dull fel yr uchod o bregethu, gyda llais a dull o draddodi da, yn sicr o fod yn ddyddorol ac adeiladol.

Yr oedd yn ddyn o gyfansoddiad cadarn, yn dal, ac yn weddol dew; ac yn ddyn glandeg a thywysogaidd yr olwg. Yr oedd yn meddu ar wroldeb meddwl tuhwnt i'r cyffredin. Cafodd lawer o