Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ionawr 8fed, 1885, ar ol dau fis o gystudd, yn 74 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Henfynyw.

Dywediadau —"Yr wyf yn credu i Adda ac Efa gael eu hachub, gan iddynt gredu addewid Duw am 'had' mor ddiysgog. Cefais wr gan yr Arglwydd,' meddai Efa pan anwyd Cain. Camsyniodd y gwrthddrych, ond yr ondd yn sicr o'r addewid."

"Mae y diafol yn medru cynllwyn, cynllwynion diafol,' meddai y Beibl, fel y rhai hyny wrth Ai gynt, yn llechu yn ddirgelaidd tucefn y ddinas er mwyn bod yn sicr o'i henill. Ac wedi cael y dyn felly i'w afael, mae yn myned yn rhy wan i'w holl ddyledswyddau crefyddol."

PARCH. WILLIAM JONES, PONTSAESON.

Mab ydoedd i Moses a Catherine Jones, Maesmynach, ffermdy o fewn tair milldir a haner i Abermeurig, lle yr oedd ef yn aelod, a'r lle hefyd y dechreuodd bregethu. Yr oedd ei ddefnyddioldeb gan mwyaf yn y gangen ysgol oedd ar Trichrug, lle yr oedd hen bobl ragorol mewn gwybodaeth a chrefydd, yr hyn fu yn fantais fawr iddo ef pan yn ieuanc. Gweithio yn galed yr oedd ar y fferm gyda'i dad, a hyny am gryn amser ar ol dechreu pregethu. Cafodd beth ysgol gyda Mr. Roberts, yn Llangeitho. Yna priododd â Miss Jane Jones, Cefngwyn, ffermdy rhwng Pontsaeson a'r Pennant, a hyny ar ddiwrnod pan oedd gwyl ddirwestol arbenig yn cael ei chynal yn y lle olaf, a'r Parchn. Henry Rees, a William Roberts, Amlwch, yn areithio ynddi allan ar y stage.

Ar ol ei briodas, aeth i Cefngwyn i fyw, ac ymaelododd yn Pontsaeson, a daeth Mrs. Jones gydag ef o Nebo, capel yr Annibynwyr. Bu yn pregethu am bedair blynedd ar ddeg a deugain, ac ordeiniwyd ef yn Llanelli, yn y flwyddyn 1852. Mae llawer o son yn awr am gael bugail i bregethu yn ei gartref unwaith yn y mis o leiaf. Yr oedd Mr. Jones yn ei gartref yn pregethu rhwng y Sabbath a'r wythnos, yn llawer amlach na hyny ar gyfartaledd, er na ddewiswyd ef yn fugail cyn 1872. Yr oedd pregethu iddo mor rwydd ag anadlu. Ei allu mawr fel pregethwr oedd y gallu i