Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(2.) Bydd trefn fawr y prynedigaeth yn ei sicrhau rhag llygru byth; neu gallai fyn'd yn llygredig er bod yn sanctaidd, fel yr aeth Adda, a gallai droi yn halogedig er bod yn ysbrydol, fel yr aeth yr angylion drwg. (3.) Llyncir angau mewn buddugoliaeth. (a.) Trwy beidio cael cyffwrdd a'r rhai fydd yn byw ar y ddaear, gan y cânt hwy eu troi yn ysbrydol heb farw. (b.) Trwy na chaiff gyffwrdd byth a'r cyrff a adgyfodir, gan y byddant fel angylion Duw yn y nef, ni allant farw mwy. (c.) Gan hyny bydd goruchwyliaeth angau, fel gwas yn darfod, ac ni all fod yn elyn mwy. Paham na byddai Duw yn gwneyd hyn a'r saint heb eu dwyn i byrth y bedd, a llygru yno? Gosodiad Duw, a thrwy hyny bydd yn fwy o ogoniant iddo, eu codi i ogoniant ac anfarwoldeb, wedi bod yn malurio yn y pridd am oesoedd lawer. III. Y swn buddugol sydd yma,—"O angau pa le mae dy golyn," &c. Y rhai fydd yn codi o'r bedd fydd yn dywedyd, "O uffern pa le mae dy fuddugoliaeth;" a'r rhai fydd yn byw ar y ddaear, fydd yn dywedyd, "O angau pa le mae dy golyn?"

Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd, a chafodd rai odfaon a gofir byth. Yr oedd bron yr un fath yn traddodi ag oedd yn nghyfansoddiad ei bregeth, yn llafurfawr a thrafferthus, ac yn twymno wrth fyned ymlaen. Pan yn traddodi, gwnelai swn mawr wrth dynu ei anadl yn ol rhwng ei ddanedd, ac ymddangosai fel yn gwneyd ei oreu i ymresymu ei fater mewn meddwl a chorff. Un byr o gorffolaeth ydoedd, gwyneb bychan, a duach na'r cyffredin; cefn braidd yn grwca, ac felly yn cerdded yn gam. Bu yn weddol gryf ac iachus trwy ei oes. Diweddar oedd yn cychwyn o gartref, a'r un fath oblegid hyny yn cyrhaeddyd y lletyau nos Sadwrn, ac yn dyfod i'r Cyfarfodydd Misol. Ni chymerai ran mewn cynadleddau nemawr byth, ond eisteddai yn agos i'r drws, neu mewn rhyw fan pell. Un diniwed ydoedd, a braidd yn afler yn ei holl symudiadau, ac yn gymeriad hollol ar ei ben ei hun. Oblegid rhyw neillduolion oedd ynddo, ni chafodd ei ordeinio hyd y flwyddyn 1859, yn Nghymdeithasfa Llangeitho. Yr oedd yn ddyn addfwyn, didwyll, a hynaws, ac o gymeriad diargyhoedd. Bu farw