Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Phillips, D.D., Neuaddlwyd, yr hwn oedd gymydog agos iddo, a merch yr hwn, sef Anne, oedd ei wraig gyntaf. Yr oedd ei dad ef yn frawd i'r diweddar Barch. Michael Jones, Bala, ac felly yn gefnder i'r Prifathraw, y Parch. M. D. Jones, ac y mae llawer o'r un neillduolion yn perthyn iddynt. Dechreuodd bregethu pan oddeutu 24 oed. Yr oedd tuedd gref ynddo er yn ieuanc i ddadleu ar brif bynciau crefydd, ac nid oedd un amheuaeth yn meddyliau hen bobl Ffosyffin, nad y blas oedd yn gael ar chwilio i'r pethau hyn, a siarad cymaint am danynt, a roddodd yr awydd cyntaf ynddo am fyned i bregethu. A nodwedd ei bregethu ar hyd ei oes oedd Ꭹ dadleuol a'r gorfanwl, a bob amser yr athrawiaethol. Chwiliai allan yr holl anhawsderau, ac ymdrechai eu hegluro, ac yn fynych, byddai yn lled lwyddianus i wneyd hyny. Nis gwyddom pa mor bell y gallodd brofi i foddlonrwydd ei wrandawyr, mai di-fai, ac nid difai, yw meddwl y gair yn Heb. ix. 14, pan y pregethai ar yr adnod hono. Dywedai mai y gallu Iawnol yn marwolaeth y groes i ddyhuddo digofaint Duw a feddylir. "Yr oedd yn rhaid," meddai, "ei fod yn ddi-fai cyn gwneyd hyny; ond y mae yr hyn oedd yr Ysbryd tragwyddol yn yr aberth, yn ei wneyd yn fwy na bod y natur ddynol yn berffaith yn unig. Yma yr oedd y natur ddynol berffaith sanctaidd, a'r natur ddwyfol anfeidrol yn gwneyd yr aberth ar Galfaria yn ddi-fai i Dduw." Yr oedd hon yn bregeth alluog, a chlywsom ef yn ei thraddodi yn Nghyfarfod Misol Glangors, Brycheiniog, yn y flwyddyn 1857, pryd y cafodd ganmoliaeth fawr.

Pan yn pregethu ar 1 Cor. xv. 54, 55, rhanodd ei bregeth fel y canlyn:—I. Fod y natur ddynol yn ddarostyngedig i farwolaeth a llygredigaeth. Pan y mae y bywyd yn ymadael a'r corff, y mae marwolaeth yn cymeryd lle; ond y mae llygredigaeth y corff yn cynwys yr holl fraenu a'r malurio fydd yn cymeryd lle ar ol marw. II. Y cyfnewidiad a gymer le, "gwisgo anllygredigaeth." 1. Yr amser y cymer hyn le, pan ddarffo," y mae yma ryw amser neillduol yn cael cyfeirio ato, sef dydd adgyfodiad y saint o'r bedd. 3. Beth fydd y cyfnewidiad a wneir. (1.) Troir y corff yn ysbrydol.