Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai sydd yn wir weddwon,' meddai Paul wrth Timotheus; a hon yw y grefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad, ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd. Peth dymunol iawn oedd gweled Ruth mor dyner o'r hen wraig Naomi, a chafodd ei thalu yn dda am hyny."

Nid oedd byth yn dweyd gair drwg am ei frodyr; ond os gwelai ryw bethau ynddynt oedd yn dda yn ol ei farn ef, byddai yn sicr o ddangos ei fawrygiad o honynt. Pan oedd gweinidog ieuanc yn lletya yn ei dŷ, galwyd arno i fedyddio plentyn oedd ar y pryd yn egwan. Yr oedd yn rhaid i'r gweinidog dieithr gyflawni y gwasanaeth, Pan aethpwyd yn ol i'r tŷ, dyna lle yr oedd yn canmol, trwy ddweyd, "O! mor gyflawn yr aeth drwy y gwasanaeth; er bod mewn tŷ, aeth trwyddi mor gyflawn a phe buasai mewn capel. Mae y Beibl yn dweyd, 'Melldigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus,' ac yn beio yr eglwys hono am na chafodd ei gweithredoedd yn gyflawn." Canmolai weinidog ieuanc hefyd am ei fedrusrwydd i wneyd penau ar y bregeth. "Mae bob amser mor drefnus," meddai, "ac yr wyf yn priodoli ei drefn dda i'r gallu rhyfedd sydd ganddo i wneyd penau. Ac y mae yn gallu meddwl mor glir, a dweyd mor glir a hyny."

Bu yn pregethu am 50 mlynedd. Cafodd ei ordeinio yn Aberteifi yr un pryd a Mr. Jones, Penmorfa, yn 1838. Bu farw Ebrill 20fed, 1873, pan yn 72 oed. Dywedodd cyn myned, "Yr wyf yn gwybod y bydd marw yn elw i mi." Priododd & Miss Jones, Llanio uchaf, Plwyf Llanddewibrefi, a chawsant ill dau fyw i oedran teg. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Llanbadarnfawr.

PARCH. JOSEPH JONES, FFOSYFFIN.

Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1811. Gof ydoedd o ran ei alwedigaeth fydol, fel ei dad, John y Foundry, neu Siôn Foundry, fel ei gelwid. Gan fod ei dad a llong fechan ganddo, fel llawer o bobl glan y môr y pryd hwnw, yr oedd yn myned ynddi yn fynych, ac yn cymeryd ei fab Joseph gydag ef, felly gwyddai ryw gymaint am forwriaeth. Bu yn derbyn addysg yn ysgol enwog y Parch. Thomas