daeth hi, ac a'i 'haddolodd ef,' gan dybied nad oedd wedi bod yn ddigon gostyngedig gerbron gwr mor fawr yn ei chais cyntaf. Mae ei gynyg olaf i wanhau ei ffydd yn waeth na'r oll: 'Nid da cymeryd bara'r plant a'i daflu i'r cwn.' Ond os oedd, y mae ei hateb hithau yn gryfach na'r holl atebion eraill 'Gwir, Arglwydd, canys y mae y plant yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddiar fwrdd eu harglwyddi.' Mae y plant a'r cwn yn ddau eithafion. Mae cariad tad at ei blant yn dangos ei hun yn y bara a rydd iddynt. Wrth y bara y mae i ni ddeall breintiau mawrion y genedl Iuddewig, ac wrth y briwsion y pethau oeddynt yn wrthod ac yn adael ar ol. Mae atebiad y wraig yn dangos,—1. Teimlad ac ymwybyddiaeth o'i sefyllfa ddirmygus. 2. Parhad o'i gostyngeiddrwydd. 3. Ei thaerineb mawr. Fel pe dywedasai, os ci ydwyf, rhaid boddloni; os briwsion, yr wyf yn foddlon arnynt ond eu cael; ac os ydwyf yn gi mewn angen, dylet tithau roddi y briwsion i mi, gan ei fod ar dy law. (Pan yn gwneyd y sylwadau hyn, chwarddodd un hen frawd yn uchel, a gwaeddodd, 'Diolch' gyda hyny). Gochelwn ninau, pobl y breintiau mawrion, rhag ein cael yn ddiystyr o honynt. Byddai yn dda gan lawer o genhedloedd y ddaear pe cawsant yr hyn yr ydym ni yn friwsioni. Gwnaeth Iesu Grist ddau beth i'r wraig cyn ei gollwng,—1. Canmolodd ei ffydd. 2. Rhoddodd yr hyn geisiodd ei ffydd."
Pan yn llefaru yn ei dro yn seiat y Cyfarfod Misol ar wasanaethu Duw, dywedai, "Mae ein heisiau i gyd ar Dduw; mae cymaint o amrywiaeth yn ei waith ef. Ewch chwithau, meddai Iesu Grist, ewch chwithau, mae digon o le a digon o waith i chwi i gyd. Yr oedd gan y Sunamees ystafell fechan ar y mur, ac ynddi wely, bwrdd, ystol, a chanwyllbren, yn barod bob amser i ddisgwyl y proffwyd i ddyfod heibio. Mae y gwaith hwnw eto gan Dduw, a llawer yn ei wneyd, a'u tai yn cael eu bendithio mewn canlyniad. Yr oedd Ahimaas yn rhedwr da, ac yn cael ei adnabod felly; mae eisiau Ahimaas weithiau ar achos Iesu Grist, dynion parod i bob gweithred dda, yn lle bod yn haner cysgu. Mae eisiau bod yn dyner wrth y gweddwon: Arhydedda y gwragedd gweddwon, y