Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn rhoddi dymuniadau i'r saint, ni allai yntau gael dim i weddio dros ei chwaer yn awr, oblegid fod yr Ysbryd yn gwybod ei bod wedi marw. Dyma fel y dywed mewn pregeth oddiar Zech. xii. 10. "Y mae yr Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ac ynom. Mae Crist yn erfyn trosom yn y nef, a'r Ysbryd yn erfyn trosom yn y galon, trwy ein nerthu i dynu ein petition mewn dull addas i lys y nef. Efe sydd yn creu erfyniau ynom, ac yn ein cynorthwyo i dywallt ein calonau o'i flaen. Er mai y saint sydd yn gweddio, eto, y mae y cynorthwyon i hyny yn gymaint o'r Ysbryd Glan, fel y dywedir mai efe sydd yn erfyn drostynt, gan eu bod hwy dan ei ddylanwad ef. Yr Ysbryd Glân fel Ysbryd gweddi yw Awdwr pob dymuniad da sydd ynom" Byddai yn anhawdd cael gwell traethawd ar waith yr Ysbryd na'r bregeth hon. Cymerai y mater i fyny yn ei holl gysylltiadau, gan fanylu fel Dr. Owen a'r hen Biwritaniaid, trwy ddweyd yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd.

Mae genym ddarnau o'i bregeth ar y "Wraig o Ganaan" yn ein meddiant, a rhoddwn ychydig o honi yma i ddangos ei allu i esbonio, yn gystal a'i fanylrwydd yn trin ei bwnc. "Un o'r hen Ganaaneaid oedd hon yn preswylio ymysg pobl Israel. Nid yn Tyrus a Sidon yr oedd hyn, ond ar y tueddau: 'Canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hwy a edifarhasent er's talm.' Gwnaeth Crist dri pheth a'r wraig hon oedd yn tueddu i'w digaloni. 1. Peidio ei hateb. 2. Dweyd na ddanfonwyd ef ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 3. Nid da cymeryd bara'r plant a'i daflu i'r cwn. Yr oedd y cyntaf yn brawf mawr ar ei ffydd, gan iddi glywed am dosturi Iesu Grist, a'i barodrwydd i wrando cwyn y gwan; ac y mae ei fod yn peidio sylwi arni hi pan yn y fath gyfyngder yn myned ymhell i wrthbrofi hyny. Ond gwnaeth Iesu Grist hyn,—1. I brofi ei ffydd. 2— I egluro ei ffydd. Wrth ei gweled yn dal i waeddi, dywedodd y disgyblion am ei 'gollwng hi ymaith.' Dywedasent hyn, medd rhai, i'r diben i Grist roddi ei chais iddi; ac eraill a ddywedant mai er mwyn iddo ei bygwth, ac atal iddi waeddi ar eu hol. Mae atębiad Iesu Grist i'r disgyblion yn dangos mai y cyntaf a feddylient. Ar hynny