Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ef yn gwneyd defnydd o'i wybodaeth glasurol, weithiau, er egluro pethau yr efengyl. Pan yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, dywedai mai meddwl y gair eucharist yn y Groeg yw rhoddiad diolch. "Tawed ein tafod a diolch byth," meddai, "os na wna ddiolch wrth gofio angau y groes. Yr wyf yn ofni ein bod fel cymunwyr yn rhy hunanol yn yr Holy Eucharist, mai dyfod yma i gael bendith i ni ein hunain yr ydym, yn lle bod ar dân yn moli Duw am y fath ddawn annhraethol.'" Pan yn pregethu oddiar Ioan vi. 45, "Dyrchafu y Tad," meddai, "oedd amcan Iesu Grist, y Tad bia'r ysgol, ac efe yw y Tutor, y Principal, y Pen ar y sefydliad i gyd."

Dechreuodd bregethu pan oddeutu 22 oed. Yr oedd wedi dysgu llawer o'r Beibl cyn hyny, a gwelwyd wrth ei weddiau a'i bregethau, ei fod yn hollol gyfarwydd yn Llyfr teyrnas nefoedd. Y peth nesaf daeth y wlad i wybod am dano oedd, ei dduwioldeb mawr. Ni chawsai neb ef i siarad ar y Sabbath ond am bethau teilwng o'r dydd. Arferai ddweyd am y daioni oedd ymhob dyn. Felly ymhob peth, ymddangosai yn ddyn pur drwyddo ar ei ymddangosiad cyntaf, ail, a thrydydd gerbron yr un bobl. Yr oedd yn weddiwr hynod; ac yr oedd mor gyfarwydd â'r gwaith, fel yr oedd yn adnabod arwyddion yr ateb a'r peidio ateb. Pan oedd yn Llangeitho, cymerwyd chwaer iddo yn glaf o'r typhoid fever. Wedi iddo glywed, cymerodd yr achos at ei Dad nefol gyda chysondeb a thaerineb. Yr oedd yn lletya gyda y blaenor enwog, Peter Davies, Glynuchaf. Un boreu, wedi dyfod i lawr o'r gwely, dywedodd, "Wel, mae fy chwaer wedi marw." "Beth ydych yn geisio ddweyd?" gofynai Mrs. Davies. "Ydy' y mae," meddai yntau. "Pa fodd y gwyddoch John Jones, 'doech ch'i ddim yn gwybod neithiwr ?" "O! mae yr un sydd yn gwybod y cwbl wedi rhoddi digon o amlygrwydd i fi ei bod wedi gadael y ddaear. Yr oedd gen i neithiwr o flaen yr orsedd, ond methais yn deg a'i chael heddyw." Ac yr oedd wedi deall yr oracl ddwyfol-yr oedd ei chwaer wedi marw, ychydig wedi haner nos. Yr oedd ef yn methu cael yr un dymunad i ofyn ar ran ei chwaer, a gwyddai efe mai Ysbryd Duw sydd