Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowlands, D.D., New York, a llu o rai eraill; ac yr oeddynt oll yn ei fawrygu fel dyn duwiol iawn—dyn meddylgar a llafurus, ac un o ddysgeidiaeth eang a dwfn. Dywedai Dr. Rowlands am dano: "Megis doe yr wyf yn cofio, pan yn fachgenyn oddeutu 16 oed, newydd ddyfod at grefydd, yr oeddwn ni yn yr ysgol ddyddiol yn Llangeitho, yr hon a gedwid gan y Parch. John Jones, Clanleri, pan ddaeth Morgan Howells yno i bregethu. Aethum i ac amryw eraill o'r ysgolorion i Lwynpiod erbyn dau o'r gloch, i gael melus wledd drachefn gan yr un gwr, heb ofni llid y brenin bychan, mawr ei enaid, oedd yn edrych ar ein hol, ac yn dysgu i ni y Groeg a'r Lladin.' "Oracl y Groeg a'r Lladin," y galwai y Parch Evan Evans, Nantyglo, ef, ac nid oedd nemawr neb o'i fwy yn ei olwg yn yr holl wlad. Yr un fath y cyfrifid ef gan y Parch. Stephen Lewis, yr Hall, Blaencefn, gynt.

Y rhai oedd wedi bod dan ei addysg wyddai oreu am ei led a'i hyd, ei ddyfnder a'i uchder. Gwnaeth ef i eraill hefyd ddyfod i wybod rhywfaint yn ei gylch. Pan oedd dau o efrydwyr Llanbedr unwaith yn ei weled yn dyfod o draw, gwnaethant gyngrair i'w gael i fradychu ei anwybodaeth. Gwyddent pwy ydoedd, ond ni wyddent ei faint. Ar ol y cyfarchiadau arferol yn yr iaith Saesneg, ac yn synu ei fod yn gallu eu hateb cystal, gofynasant iddo ryw bethau yn mhellach, ac yn cael atebion o hyd, a hyny mewn Saesneg gwell o lawer nag oedd ganddynt hwy. Ond, gan benderfynu cael ei anwybodaeth i'r golwg, gofynasant iddo ryw bethau am y Groeg a'r Lladin. "Gofynwch i mi yn y Lladin," meddai, "ac mi atebaf finau chwi yn y Lladin." A chyn ymadael, rhoddodd wersi iddynt iw dysgu erbyn y daethai yn ol, gan ddangos yr un pryd eu hanwybodaeth, ac am iddynt chwilio yn well. Oblegid eu bod wedi cael y fath siomedigaeth, a pheth dychryn, darfu iddynt hysbysu i Dr. Llewelyn, y Prifathraw, ychydig o'r helynt. Wedi clywed, dywedodd wrthynt fod Mr. Jones gyda'r dyn mwyaf cyfarwydd yn yr ieithoedd clasurol yn yr holl wlad, a'u bod wedi bod yn ffol iawn i ddechreu dadl âg ef. Hysbysodd hwy mai Mr. Jones oedd yn iawn gyda golwg ar ryw bethau yr amheuant ei gywirdeb ynddynt. Yr