Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Glanleri, ffermdy yn agos i'r Borth. Yr oedd yn arferiad y pryd hwnw i alw pregethwyr yn ol enwau ea ffermydd. Daethant i'w alw hefyd John Jones, y Borth. Bu yn pregethu ar y Goror am 6 mlynedd. Ond gwelwyd gwell gwaith i'w fath ef na bod yn y lle hwnw, sef cadw Grammar School yn Llangeitho. Y pryd hwnw, gelwid ef gan lawer ar enw y lle byth-gofiadwy hwn. Yn ddiweddaf oll, yn ol enw Llanbadarnfawr, neu Saron, enw capel y lle hwnw. Mae pedwar peth wedi ei argraffu ar ein meddwl am dano er pan ei gwelsom gyntaf. Y peth cyntaf oedd, bychandra gorff—nid oeddym ond prin gweled ei ysgwyddau yn mhulpudau dwfn y Penant ac ysgoldy Pontsaeson. Y llall oedd, ei ddiflasdod yn pregethu—dim un gair yn uwch na'r llall, a rhyw gymaint o atal dweyd arno. Y trydydd oedd, fod yr hen bobl fwyaf gwybodus yn dweyd ei fod yn un o'r ysgolheigion goreu, ac yn gwybod llawer o ieithoedd. A'r olaf oedd, ei fod yn dduwinydd mawr. Canmolent ef, hefyd, fel pregethwr, dywedent fod ei bregeth yn llawn o feddyliau rhagorol, ond ei fod ef yn methu eu gosod allan fel John Jenkins, Blaencefn, Jenkin Davies, a Jones, Blaenanerch. Gwallt melyngoch oedd ganddo, gwyneb crwn ac agored, a darnau bychain o whiskers o dan ei wallt, ei wyneb, ond hyny, i gyd wedi ei eillio.

Ganwyd ef yn 1801. Nid oedd golwg dyfod yn gryf arno i weithio ar y fferm, er ei fod yn ddigon ufudd i wneyd ei oreu, hyd nes y daeth i garu llyfrau; wedi hyny, gyda'r rhai hyny y mynai fod ddydd a nos. Yr oedd pregethwyr o bob cyfeiriad yn dyfod i Glanleri, a byddai llawer o honynt yn dweyd fod yr un bychan yn debyg o ddyfod yn ddyn mawr. Ac os na wnelai fawr ar y fferm, daethpwyd i ddeall yn lled foreu ar ei oes, y gallai yfed dysg fel dwfr. Cafodd ysgol ragorol yn ymyl ei gartref, sef yn Llanfihangel. Yr oedd yn gwybod rhyw gymaint o Groeg a Lladin cyn myned oddiyno i Ystradmeurig. Daeth fel hyn i feddu gwybodaeth oedd yn ei osod ymhell uwchlaw y cyffredin o bregethwyr y pryd hwnw. Bu llawer o enwogion y Methodistiaid yn ei ysgol enwog yn Llangeitho, megis y Parchn. Lewis Edwards, D.D., Bala, a William