Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedir i'r dyn wrando a chymeryd addysg. Yr oedd yn gryf hefyd o ran profiad. Pan ddywedodd y brodyr wrtho mewn Cyfarfod Misol eu bod yn clywed yn fynych ei fod yn cael odfaon rhyfeddol o dda, dywedodd, "Yr wyf yn cael hyder a blâs mawr weithiau, yr wyf yn teimlo mwy o awydd arnaf i achub eneidiau nag erioed. Dro arall, dywedodd, "Yr wyf yn Rhosydd Moab, ond nid oes eisiau iddi fod lawer yn waeth arnaf o ran hyny; cafodd Moses ben Pisgah o'r fan hono, ac yr wyf finau yn meddwl fy mod yn cael gweled y wlad weithiau." Yna dywedodd yn wyllt, a'i deimlad yn ddrylliog, "Yr wyf yn meddwl na chollir fi." Wedi adfeddianu ychydig o hono ei hun, dywedodd, "Gallaf ddweyd mai ch'i yw mhobol i. Yr wyf yn taflu fy hun i'r glorian bob dydd, nid yn lwmpyn, ond pob gras ar ei ben ei hun. Yr wyf yn cael fy hun weithiau yn bwysau, ond yr ofnau sydd fynychaf. Yr wyf yn synu na byddwn yn fwy sanctaidd erbyn hyn." Yn ei gystudd olaf, cafodd un brawd ef wrth y gwaith o orfoleddu, a dywedodd paham, "Yr wyf wedi bod yn anfon ffydd o'm blaen i wlad yr addewid, er mwyn cael gweled ei rhagoroldeb, ac yr oedd hono newydd ddychwelyd yn awr gyda newyddion da iawn, ac wedi gorchfygu fy anghrediniaeth." Eto, "Mae pethau byd tragwyddol yn dyfod i fy meddwl weithiau nes bron fy llethu; eto, y mae arnaf awydd myn'd atynt wedi'r cwbl. Mae y gwaed yn abl i'm cymhwyso." Mwynhaodd yn helaeth ryw ddiwrnod eiriau Paul, "Mi a wn i bwy y credais." "Gwn inau," meddai, "mai iddo Ef. yr wyf wedi ymddiried yr oll erbyn y dydd hwnw." "Y penillion hyny hefyd," meddai—

"O! gad i mi brofi sypiau," &c.

"O! na chawn i olwg hyfryd," &c.

Fel hyn yn ngolwg y wlad, ehedodd ei ysbryd iddi Mawrth 10fed, 1885, wedi bod yn pregethu am 63 mlynedd, a chladdwyd ei weddillion marwol o flaen capel Penmorfa.

PARCH. JOHN JONES, SARON.

Yn nechreuad ei bregethu, yr oedd yn cael ei adnabod fel John